Cynrychiolaeth a Chyswllt
Fforwm Mynediad Cenedlaethol:
Mae cynrychiolydd o’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n aelod o’r Fforwm Mynediad Cenedlaethol – corff ymgynghorol anstatudol yn cynrychioli amrywiaeth eang o fuddiannau fel perchnogaeth o / rheoli tir, hamdden a chadwraeth natur. Gweinyddir a chadeirir y Fforwm ganGyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) Ei brif ddiben yw cynghori CCGC ynghylch materion yn ymwneud â mynediad i gefn gwlad yng Nghymru. Fel aelod o’r grwp, mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n darparu data am lefelau cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden awyr agored a chysylltu gyda phartneriaid eraill sy’n gweithio tuag at nodau Dringo’n Uwch, sef annog defnyddio’r awyr agored i fod yn gorfforol egnïol.
Rhwydwaith Gweithgarwch Corfforol Cymru (RhGCC):
Mae RhGCC yn cysylltu’r unigolion a’r sefydliadau yn y sbectrwm gweithgarwch corfforol yng Nghymru gyda’i gilydd gan ddarparu cefnogaeth a hwyluso gweithio drwy bartneriaeth. Mae cynrychiolydd o’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n aelod o grwp llywio RhGCC. Mae hyn yn galluogi i’r Cyngor Chwaraeon ddarparu cyngor a chyfarwyddyd ychwanegol o safbwynt ymchwilio a gwerthuso mewn perthynas â gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
Grŵp Arolygu Hamdden Awyr Agored Cyngor Cefn Gwlad Cymru/Comisiwm Coedwigaeth Cymru:
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru wedi comisiynu darn o waith ar y cyd er mwyn edrych ar ymarferoldeb cynnal Arolwg ar Hamdden Awyr Agored Ledled Cymru. Mae adran Ymchwil a Gwerthuso Cyngor Chwaraeon Cymru wedi bod yn aelod allweddol o’u grwp ymgynghorol, yn arbennig mewn perthynas â ffurfio cyswllt gyda gwaith ymchwil ac arolygu arall y mae’r Cyngor Chwaraeon yn ymgymryd ag ef.
Dyletswydd i Gydraddoldeb Rhywiol/Gweithgor Merched a Genethod:
Cynrychiolir yr adran ar weithgor mewnol y Cyngor sy’n rhoi sylw i Ferched a Genethod, gan ddarparu data i fesur cynnydd yr amcanion i gynyddu cyfranogiad merched mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae cynlluniau cyfranogiad fel Genethod yn Gyntaf a Hei-Ni / Ffit Gyda’n Gilydd yn cyfrannu at ddatblygu rhaglenni pellach i roi sylw i faterion anghydraddoldeb a’r rhwystrau sy’n atal cymryd rhan.
Mae CChC wedi bod yn un o’r cyfranogwyr sy’n gweithio gyda’r Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal (CCC) ar brosiect i dreialu’r ddyletswydd cydraddoldeb hiliol arfaethedig yn y sector cyhoeddus. Mae hyn wedi cynnwys defnyddio darganfyddiadau o’r arolygon a’r gwaith gwerthuso i gyfrannu at y cynnydd a wneir a’r arfer dda yn adroddiad y CCC.
