Cynrychiolaeth a Chyswllt
Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynrychioli Cyngor Chwaraeon Cymru mewn nifer o fforymau:
Grwp Cyfeirio Hamdden, Diwylliant a Chwaraeon Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Leol:
Cyflwynwyd Rhaglen Welliant Cymru (RhWC) yng Nghymru yn 2002 fel dull newydd o weithredu i annog a chefnogi gwelliant yn y gwaith o gyflwyno gwasanaethau lleol. Fel rhan o’r rhaglen, mae’r Cyngor yn edrych ar iechyd y sefydliad corfforedig a pherfformiad yr amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir ganddo. Mae cyfresi o ddangosyddion craidd yn elfen allweddol bwysig o’r fframwaith mesur perfformiad. O ystyried y gostyngiad radical yn y DPion statudol, mae’r cyfresi craidd yn creu’r prif ddarlun o berfformiad awdurdodau lleol. Mae gan bob maes gwasanaethu Grwp Cyfeirio; mae’r Cyngor Chwaraeon yn un o’r sefydliadau a gynrychiolir i helpu gyda datblygu’r dangosyddion craidd sy’n ddigon cynhwysfawr i ddarparu darlun teg a chrwn o berfformiad, ond heb fod yn rhy feichus i’r Awdurdodau.
Grŵp Maincnodi Datblygiad Chwaraeon Awdurdodau Lleol:
Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynrychioli Cyngor Chwaraeon Cymru ar grŵp sy’n cyfarfod yn chwarterol i gynghori Rheolwyr Datblygu Chwaraeon Awdurdodau Lleol ynghylch mesur dangosyddion perfformiad allweddol o Ddringo’n Uwch ac i roi iddynt ddata am gyfranogiad chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lefel yr Awdurdodau Lleol, a diweddariadau wrth i ddata o arolygon newydd ddod i’r fei. Y tu allan i’r cyfarfodydd, mae aelodau’r grwp maincnodi’n cysylltu’n aml gyda staff yr adran Ymchwil a Gwerthuso am ddadansoddiadau pellach ar lefel ranbarthol a lefel yr Awdurdodau Lleol; fel darparu data penodol am chwaraeon, tueddiadau cymryd rhan, rhwystrau’n atal cyfranogiad, defnydd o ganolfannau hamdden a dadansoddiad yn ôl oedran, rhyw a grwp cymdeithasol-economaidd. Hefyd mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynghori ynghylch dulliau ymchwil / holiaduron addas os yw Awdurdodau Lleol yn cynnal eu hastudiaethau eu hunain.
Athrofa Chwaraeon,Iechyd a Gwyddoniaeth Ymarfer Weledol Cymru:
Mae WISHES yn hybu ymwybyddiaeth gynyddol o weithgareddau ymchwil yn y byd chwaraeon, iechyd a gwyddoniaethau ymarfer oddi mewn i’r sefydliadau addysg uwch amrywiol ledled y wlad ac mae’n meithrin cydweithrediad newydd rhwng unigolion a sefydliadau yn y meysydd ymchwil hyn. Mae’r Cyngor Chwaraeon yn aelod sefydliadol o WISHES ac mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynrychioli’r Cyngor Chwaraeon ar ei Fwrdd Ymgynghorol. Mae hyn wedi profi’n fuddiol o safbwynt cefnogi ac arwain y gymuned academaidd wrth iddi drafod polisïau chwaraeon.
Y Rhwydwaith Hamdden cefn Gwlad (RhHCG):
Mae gan y RhHCG gylch gorchwyl yn y DG i gyfnewid a rhannu gwybodaeth er mwyn datblygu polisïau ac arferion da ar gyfer hamdden yng nghefn gwlad. Mae gan y rhwydwaith swyddogaeth ymchwil gref; gan noddi digwyddiadau a seminarau ymchwil a rhoi adnoddau at ei gilydd i gomisiynu gwaith ymchwil. O’r herwydd, mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynrychioli’r Cyngor Chwaraeon yn y grwp hwn ac yn cyfrannu at yr is-grwp Ymchwil hefyd. Mae’r grwp yn bwysig er mwyn gosod y persbectif ehangach ledled y DG ar hamdden yng nghefn gwlad yn ei gyd-destun, gan rannu arfer dda a hybu’r arfer o gyfnewid gwybodaeth.
