Gwaith Ywchwil Arall
Marchanata Cymdeithasol:
Oddi mewn i ‘Fframwaith Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol’ y Cyngor, tynnwyd sylw at farchnata cymdeithasol fel arf y byddai’r Cyngor Chwaraeon yn ei ddefnyddio a’i ddatblygu. O ganlyniad, mae’r Adran wedi ymgymryd ag ymchwil helaeth i farchnata cymdeithasol gan gyflwyno darganfyddiadau’r gwaith hwn i adran Marchnata ac AD CChC a’r timau Cymunedau Egnïol Rhanbarthol. Diben y cyflwyniadau hyn yw rhoi gwybod i gydweithwyr beth yw marchnata cymdeithasol, ei fanteision, yr enghreifftiau byd-eang o farchnata cymdeithasol llwyddiannus a’r defnydd posibl o farchnata cymdeithasol yn eu gwaith.
Cynlluniau Chwarae: cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol?:
Yn cael ei hwyluso gan Wasanaethau Chwarae Caerdydd, mae’r gwaith ymchwil empirig hwn yn edrych ar ansawdd cyfraniad ‘chwarae’ i lefelau gweithgarwch corfforol plant. Gan ddefnyddio technegau’n arsylwi’r cyfranogwyr, edrychwyd ar weithgarwch corfforol fel rhan o gynlluniau chwarae yn ystod yr haf; yn arbennig, gweithredoedd a rhyngweithiad Gweithwyr Chwarae a phlant a’r materion yn ymwneud ag eitrhio / cynnwys a chyfranogiad / diffyg cyfranogiad. Bydd y data’n cael ei ddadansoddi a pharatoir adroddiad ar gyfer CChC a Gwasanaethau Chwarae Caerdydd.
Barn am Ystafelloedd Newid a Chit AG ymhlith Disgyblion Ysgolion Uwchradd:
Amcan y prosiect ymchwil hwn ar ffurf astudiaeth achos oedd canfod barn disgyblion uwchradd am ystafelloedd newid a chit AG. Mae diffyg ymchwil penodol yn edrych ar y rhwystrau sy’n atal cyfranogiad; bydd yr ymchwil hwn yn cyfrannu at ac yn datblygu’r gwaith ymchwil cyfredol yn y maes hwn ac yn darparu gwybodaeth ymarferol ar gyfer ysgolion a swyddogion Pobl Ieuainc Egnïol CChC i hwyluso cyfranogiad mewn chwaraeon.
