Gwaith Ywchwil Arall
Arolwg Defnyddwyr Athrofa Chwaraeon Cymru (AChC):
Mae hon yn astudiaeth bob dwy flynedd o farn a nodweddion defnyddwyr AChC, boed yn athletwyr elitaidd, y cyhoedd yn gyffredinol, cynrychiolwyr y cyrff rheoli neu glybiau. Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n dylunio’r holiadur ac yn dadansoddi ac yn adrodd yn ôl am y data. Defnyddir y darganfyddiadau gan Reolwyr AChC i wella gwaith yr Athrofa.
Arolwg ar Staff CChC / AChC:
Bu’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n dadansoddi ac yn adrodd yn ôl am arolwg staff CChC / AChC ar ran adran Adnoddau Dynol CChC. Cyflwynwyd canlyniadau’r arolwg hwn i’r Rheolwr Adnoddau Dynol (AD) ac i Gyfarwyddwyr CChC ac yna arenwyd cyfres o weithredoedd er mwyn sicrhau bod CChC yn parhau i fod yn gyflogwr cyfrifol a phroffesiynol. Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n parhau i weithio gyda’r Rheolwr AD i ddatblygu a chynnal yr arolwg bob blwyddyn.
Cynllun Aberthu Cyflog:
Yn ddiweddar, cyflwynodd Cyngor Chwaraeon Cymru gynllun aberthu cyflog ar gyfer prynu beiciau, gyda staff CChC yn cael dewis ildio rhan o’u cyflog trethadwy er mwyn derbyn beic. Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n gwerthuso’r cynllun ar gyfer y Cyngor. Defnyddir y canlyniadau gan yr adran Adnoddau Dynol fel sail ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol. Bydd o fudd hefyd i Gymunedau Egnïol wrth iddynt ddatblygu sylfaen o dystiolaeth ar gyfer rhaglenni yn y gwaith er mwyn cynyddu lefelau’r gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
Arolwg TGCh:
Bu’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n dadansoddi data ac yn llunio adroddiad ar gyfer adran TGCh Cyngor Chwaraeon Cymru, er mwyn asesu effaith y newidiadau TGCh a weithredwyd o ganlyniad i Strategaeth TGCh 2003-2006, er mwyn mesur lefel bresennol y gwasanaethau a ddarperir gan yr adran TGCh ac i weithredu fel sail ar gyfer datblygu Strategaeth TGCh newydd ar gyfer 2006-2009.
Adolygu Ffurflenni Grant Corffedig CChC:
Bu’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynnal cyfres o grwpiau ffocws ledled Cymru gyda phartneriaid traddodiadol a phartneriaid newydd, er mwyn cael gwybod barn y cyfranogwyr am sut allai’r Cyngor Chwaraeon wella’r broses ymgeisio ar gyfer cyllid Sportsmatch Cymru a’r Gist Gymunedol. Roedd yr adran yn gyfrifol am ddyfeisio’r amserlen gyfweld, y fethodoleg, y dadansoddi a’r adrodd yn ôl. Bydd yr adroddiad terfynol yn cyfrannu at ddatblygu pecynnau newydd a fydd yn hwyluso ceisiadau gan bob grwp cymwys. Gwnaed y gwaith hwn mewn partneriaeth â thîm Grantiau Cyngor Chwaraeon Cymru a’r adran Farchnata a CC.
