Arolygon gyda Samplau Mawr
Arolwg ar Gyfranogiad Plant mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
Mae’r Cyngor wedi comisiynu arolygon ar raddfa fawr, bob dwy flynedd, ar gyfranogiad plant ysgolion cynradd mewn chwaraeon ers 1991. Diben yr astudiaeth hon yw edrych ar lefelau cyfranogiad plant (7-11 oed) mewn chwaraeon a hamdden gorfforol yng Nghymru, yn yr ysgol a’r tu allan iddi. Mae’n edrych ar y gweithgareddau y cymerir rhan ynddynt mewn AG yn ystod amser cwricwlaidd a’r chwaraeon y cymerir rhan ynddynt fel rhan o weithgarwch allgyrsiol. Yn y gymuned, mae’n ceisio darganfod y rhan a chwaraeir gan chwaraeon ym mhatrwm gweithgareddau hamdden plant.
Arolwg ar Gyfranogiad Pobl Ieuainc mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
Yn yr un modd, comisiynodd y Cyngor arolygon ar raddfa fawr, bob dwy flynedd, ar gyfranogiad disgyblion ysgolion uwchradd mewn chwaraeon ers 1991. Diben yr astudiaeth hon oedd edrych ar lefelau cyfranogiad ieuenctid (11-16 oed) mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, yn yr ysgol a’r tu allan iddi. Mae’n edrych ar y gweithgarwch a wneir mewn AG gwricwlaidd a chwaraeon fel gweithgaredd allgyrsiol. Yn y gymuned mae’n ceisio darganfod y rhan a chwaraeir gan chwaraeon ym mhatrwm gweithgareddau hamdden pobl ieuainc.
Mae’r gwaith ymchwil cyfredol hefyd yn cynnwys cyfres o 6 o astudiaethau achos. Bydd y rhain yn edrych ar faterion ansoddol yn ymwneud â chyfranogiad, neu ddiffyg cyfranogiad, mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Arolwg ar Gyfranogiad Oedolion mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
Ers 1987, mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi casglu data am lefelau cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden yng Nghymru. Cesglir y data bob yn ail blwyddyn ac mae wedi ffurfio sylfaen ar gyfer datblygu polisïau a rhaglenni. Diben yr arolwg hwn fu monitro a gwerthuso
cyfranogiad mewn chwaraeon ac, yn fwy diweddar, asesu lefel gweithgarwch corfforol pobl Cymru.
Casglwyd data cymryd rhan i ddechrau, drwy gyfrwng Arolwg Omnibws Cymru a gynhaliwyd gan Beaufort Research, ymhlith sampl gynrychioliadol o oedolion 15+ oed Cymru. Roedd hyn yn caniatáu dadansoddiad o bedwar rhanbarth Cymru a ddiffinnir gan CChC fel y Berfeddwlad Wledig, y Gogledd Gwledig, y Gymru Fetropolitan a’r Cymoedd. Fel ymateb i’r angen am ddata ar lefel yr awdurdodau lleol, adolygwyd yr arolwg ar gyfer arolwg 1998/99 ymlaen. Y prif newid oedd cynnydd ym maint y sampl tra’n cynnal methodoleg sampl y cwota, fel bod modd dadansoddi’n fanwl ar gyfer pob awdurdod lleol.
Arolwg ar y Ddarpariaeth AG – Ysgolion Cynradd
Amcan yr arolwg hwn yw casglu gwybodaeth am yr adnoddau a’r ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer AG gwricwlaidd, y gweithgareddau a gynigir fel rhan o’r cwriclwm, argaeledd ac ansawdd rhagdybiol y cyfleusterau chwaraeon yn yr ysgolion a’r adnoddau ar gyfer y ddarpariaeth AG allgyrsiol a’r dull o’i chyflwyno.
Arolwg ar y Ddarpariaeth AG – Ysgolion Uwchradd
Amcan yr arolwg hwn yw casglu gwybodaeth am yr adnoddau a’r ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer AG gwricwlaidd, y gweithgareddau a gynigir fel rhan o’r cwriclwm, argaeledd ac ansawdd rhagdybiol y cyfleusterau chwaraeon yn yr ysgolion a’r adnoddau ar gyfer y ddarpariaeth AG allgyrsiol a’r dull o’i chyflwyno.
Arolwg DPP AG a Chwaraeon Ysgol
Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r adran YaG wedi hwyluso arolwg ar yr athrawon sy’n ymwneud â rhaglen AG a Chwaraeon Ysgol y Cynulliad, er mwyn asesu eu gofynion o ran datblygiad proffesiynol a mesur y cynnydd a wnaed gan y rhaglen wrth roi sylw i’r materion a godwyd o safbwynt anghenion hyfforddi’r athrawon. Mae’r arolwg yn cael ei gynnal yn flynyddol. Llunnir adroddiad cyffredinol a chyflwynir y darganfyddiadau i’r Tîm Gweithredu Cenedlaethol. Cynhyrchir adroddiadau cryno unigol wedyn ar gyfer bob un o’r 22 awdurdod lleol, gan fesur eu hanghenion hyfforddi a’r cynnydd a wnaed yn erbyn cyfartaledd Cymru ac o gymharu â darganfyddiadau’r flwyddyn flaenorol.
