Gwasanaethau Ymchwil a Gwybodaeth

Gwerthuso

Panel Syniadau’r Mannau Egnïol

Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n aelod gweithredol o’r Panel Syniadau ac ar hyn o bryd yn gwerthuso’r pum prosiect peilot mewn clybiau a chymdeithasau chwaraeon ledled Cymru. Amcan y gwerthusiad yw edrych ar i ba raddau y mae tri model o arallgyfeirio mewn clybiau’n llwyddo i ehangu’r defnydd o gyfleusterau ac arwain at gynnydd llwyddiannus a chynaladwy yn y lefelau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Un rhan allweddol o’r gwerthusiad hwn yw deall pan fod modelau penodol yn llwyddo (a methu) mewn cyd-destunau arbennig. Mae’r gwerthusiad hwn yn ddarn pwysig o waith i’r Cyngor a bydd yn helpu i lunio gwaith y Cymunedau Egnïol.

Panel Syniadau’r Gweithleoedd Egnïol

Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n darparu rôl ymgynghorol ar gyfer Panel Syniadau’r Gweithleoedd Egnïol ym mhob maes ymchwil, gwerthuso a monitro, ac yn cyfrannu at drafodaethau ac yn gwneud cyfraniad. Mae’r gweithle wedi troi’n fan sy’n cynnig cyfle unigryw i annog oedolion a’u teuluoedd i gynyddu lefelau eu gweithgarwch corfforol. Er mwyn annog gweithwyr CChC i hybu iechyd a gweithgarwch corfforol, datblygodd yr adran Ymchwil a Gwerthuso arolwg mewnol yn ceisio darparu corff o dystiolaeth i ddangos yr amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd sy’n angenrheidiol ym marn y staff er mwyn cymryd rhan mewn 5x30 munud o weithgarwch corfforol yr wythnos ym mhob adran o’r Cyngor, gan arwain yn y pen draw at leihau absenoldebau o’r gwaith, gwella cynhyrchiant a datblygu gweithlu iach. Yn ychwanegol at hyn, mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n arwain elfen ymchwil a gwerthuso’r prosiect peilot yn y gweithle gyda gweithwyr Tesco. Bydd hyn yn galluogi i CChC ddysgu am ymwneud â gwahanol fathau o bartneriaid i hybu gweithgarwch corfforol yn y gweithle.