Canfod Gwybodaeth Bellach am Chwaraeon
Mae’r Ganolfan Wybodaeth yn cynhyrchu dau fwletin ymwybyddiaeth – y Bwletin Chwarterol o Gyhoeddiadau Chwaraeon a Hamdden a SportsInfo.
- Bwletin Chwarterol o Gyhoeddiadau Chwaraeon a Hamdden – yn rhestru’r llyfrau a’r erthyglau diweddar mewn cyfnodolion ac yn rhoi crynodeb byr o’u cynnwys.
- SportsInfo – Cyhoeddir SportsInfo deirgwaith y flwyddyn. Mae’r bwletinau’n cynnwys erthyglau o ddiddordeb i hyfforddwyr a gwyddonwyr chwaraeon.
Mae bas data 'Gwerth y Monitor Chwaraeon' yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth ac mae’n darparu gwasanaeth monitro ar-lein ar gyfer y ffynonellau cyfeirio diweddaraf ac adolygiadau allweddol o dystiolaeth ymchwil a gyhoeddwyd am gyfraniad chwaraeon i amrywiaeth o faterion cymdeithasol ehangach.
Ffynhonnell ardderchog o wefannau chwaraeon yw Intute, gwasanaeth ar-lein rhad ac am ddim sy’n arwain chi at yr adnoddau gwefan gorau o addysg ac ymchwil. Bydd y cyswllt hwn yn arwain chi i adran Gweffanau Chwaraeon ac Ymarferion Hamdden.
Mae’r Ganolfan Wybodaeth yn anheddu casgliad gynhwysfawr o 6,000 o lyfrau ar hyfforddi a gwyddoniaeth chwaraeon. Mae’r casgliad yn cyflenwi gwaith gyffredinol ar hyfforddi, dulliau o ymarfer, ymarferion cryfhau, maethiad, seicoleg, gwyddoniaeth chwaraeon, meddygaeth chwaraeon ynghyd ac hyfforddi campau unigol. I weld rhagor o wybodaeth hyfforddi, cliciwch yma.
