Gwasanaethau Ymchwil a Gwybodaeth

Canolfan Gwybodaeth

CANOLFAN WYBODAETH CYNGOR CHWARAEON CYMRU

Ble mae’r Ganolfan Wybodaeth wedi’i lleoli?

Gwelir y Ganolfan Wybodaeth yn swyddfeydd Cyngor Chwaraeon Cymru yn Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.

Pa adnoddau a geir ynddi?

Mae’r Ganolfan yn gartref i lyfrgell ag ynddi ryw 8,500 o lyfrau, adroddiadau, gweithrediadau cynhadledd ac erthyglau ar chwaraeon a hamdden. Y prif bynciau yw:

  • Cynllunio, dylunio ac adeiladu cyfleusterau chwaraeon;
  • Datblygiad chwaraeon – yn cynnwys y ddarpariaeth chwaraeon ar gyfer grwpiau arbennig, fel plant, merched a phobl ag anableddau;
  • Cyfranogiad mewn chwaraeon – arolygon, ystadegau;
  • Chwaraeon ysgol ac addysg gorfforol;
  • Rheoli hamdden;
  • Cyllid a chwaraeon – nawdd, codi arian, prisio;
  • Hyfforddiant;
  • Gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon – anafiadau, cyffuriau, iechyd, ymarfer, dulliau hyfforddi, seicoleg, maeth;
  • Hamdden yng nghefn gwlad ac ar ddwr.

Mae’r Ganolfan Wybodaeth yn derbyn mwy nag 80 o gyfnodolion ac mae eu hanner yn cael eu cadw’n barhaol. Cedwir data cynhwysfawr am gyfleusterau adeiledig ar gyfer chwaraeon yng Nghymru mewn bas data a gellir gweld y safleoedd ar gyfer hamdden awyr agored ar system wybodaeth ddaearyddol. Cedwir ffeil o doriadau o’r wasg am chwaraeon yn y Ganolfan a cheir llyfrgell fideos / DVDs ynddi. Mae’r fideos a’r DVD ar gael i’w benthyg i glybiau chwaraeon, ysgolion a cholegau. Gellir cyflenwi rhestr o’r teitlau.

Sut mae canfod gwybodaeth·

Gellir gweld beth sydd gan y Ganolfan Wybodaeth drwy ddefnyddio bas data llyfryddol cyfrifiadurol. Mae’r system hon yn galluogi i’r defnyddiwr chwilio yn ôl awdur neu bwnc, drwy ddefnyddio system indecs gair allweddol. Hefyd, mae’r bas data SPORT Discus, sy’n cynnwys mwy na 600,000 o gyfeiriadau rhyngwladol am chwaraeon a hamdden, ar gael ar gyfer ei ddefnyddio ar CD Rom.

Pa wasanaethau eraill mae’r Ganolfan yn eu darparu?

Gellir derbyn cyhoeddiadau Cyngor Chwaraeon Cymru o’r Ganolfan Wybodaeth; mae rhestr ar gael ar gais. Mae’r Ganolfan yn cynhyrchu dau fwletin i greu ymwybyddiaeth. Mae’r Bwletin Chwarterol o Gyhoeddiadau am Chwaraeon a Hamdden Gorfforol yn rhestru’r llyfrau a’r erthyglau cyfnodolion diweddar ac yn cynnwys crynodeb byr amdanynt. Mae Sportsinfo yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn ac yn rhestru erthyglau o ddiddordeb i hyfforddwyr a gwyddonwyr chwaraeon. Gellir cael llungopïau o’r erthyglau, yn unol â Rheoliadau Hawlfraint.

Mae’r Ganolfan yn gweithredu Cynllun Benthyg Adnoddau Hyfforddi. Mae hyn yn galluogi i hyfforddwyr cymwys a gwyddonwyr chwaraeon fenthyg llyfrau am hyfforddi, meddygaeth chwaraeon, gwyddoniaeth chwaraeon, dulliau hyfforddi, maeth a seicoleg chwaraeon.

Sut mae defnyddio’r Ganolfan Wybodaeth?

Croesewir ymholiadau dros y ffôn, trwy lythyr, e-bost neu ffacs. Mae croeso i chi hefyd ymweld â’r Ganolfan Wybodaeth i ddefnyddio’r adnoddau ar sail gyfeirio. Os yn teithio o’r tu allan i’r ardal, mae’n ddoeth i chi ffonio i ddechrau i sicrhau y bydd rhywun ar gael i’ch helpu. Mae’r Ganolfan ar agor rhwng 10.30 a 12.30 a 2.30 a 4.30 yn ystod yr wythnos.

Sut mae cael gwybodaeth bellach?

Dylid cyfeirio pob ymholiad at:

Y Swyddog Gwybodaeth, Cyngor Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW

Ffôn: 029 2033 8262/8263 / Ffacs: 0845 046 0014

E-bost: information@scw.org.uk