Gwasanaethau Ymchwil a Gwybodaeth

Gwasanaethau Ymchwil a Gwybodaeth

Croeso i Adran Ymchwil a Gwerthuso Cyngor Chwaraeon Cymru

Swyddogaeth yr adran Ymchwil a Gwerthuso yw cynghori ynghylch datblygiad polisi strategol Cyngor Chwaraeon Cymru a gwerthuso ei raglenni. Mae rhaglen waith yr adran Ymchwil a Gwerthuso’n cael ei llunio ar sail y blaenoriaethau a arenwyd yn ‘Dringo’n Uwch – Strategaeth ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yng Nghymru' a Fframwaith Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cyngor Chwaraeon Cymru.

Yn yr adran hon yn y wefan, cewch hyd i fanylion am raglen ymchwil a gwerthuso’r Cyngor a’i gweithgareddau, ynghyd â gwybodaeth am Wasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell y Cyngor, ei gyhoeddiadau a’i adnoddau, ei fas data o gysylltiadau a’i ddata am gynllunio a chwaraeon a gweithgarwch corfforol.