Cynrychiolaeth a Chyswllt
Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynrychioli Chwaraeon Cymru mewn nifer o fforymau:
Grwp Cyfeirio Hamdden, Diwylliant a Chwaraeon Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Leol:
Cyflwynwyd Rhaglen Welliant Cymru (RhWC) yng Nghymru yn 2002 fel dull newydd o weithredu i annog a chefnogi gwelliant yn y gwaith o gyflwyno gwasanaethau lleol. Fel rhan o’r rhaglen, mae’r Chwaraeon Cymru yn edrych ar iechyd y sefydliad corfforedig a pherfformiad yr amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir ganddo. Mae cyfresi o ddangosyddion craidd yn elfen allweddol bwysig o’r fframwaith mesur perfformiad. O ystyried y gostyngiad radical yn y DPion statudol, mae’r cyfresi craidd yn creu’r prif ddarlun o berfformiad awdurdodau lleol. Mae gan bob maes gwasanaethu Grwp Cyfeirio; mae’r Chwaraeon Cymru yn un o’r sefydliadau a gynrychiolir i helpu gyda datblygu’r dangosyddion craidd sy’n ddigon cynhwysfawr i ddarparu darlun teg a chrwn o berfformiad, ond heb fod yn rhy feichus i’r Awdurdodau.
Grŵp Maincnodi Datblygiad Chwaraeon Awdurdodau Lleol:
Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynrychioli Chwaraeon Cymru ar grŵp sy’n cyfarfod yn chwarterol i gynghori Rheolwyr Datblygu Chwaraeon Awdurdodau Lleol ynghylch mesur dangosyddion perfformiad allweddol o Ddringo’n Uwch ac i roi iddynt ddata am gyfranogiad chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lefel yr Awdurdodau Lleol, a diweddariadau wrth i ddata o arolygon newydd ddod i’r fei. Y tu allan i’r cyfarfodydd, mae aelodau’r grwp maincnodi’n cysylltu’n aml gyda staff yr adran Ymchwil a Gwerthuso am ddadansoddiadau pellach ar lefel ranbarthol a lefel yr Awdurdodau Lleol; fel darparu data penodol am chwaraeon, tueddiadau cymryd rhan, rhwystrau’n atal cyfranogiad, defnydd o ganolfannau hamdden a dadansoddiad yn ôl oedran, rhyw a grwp cymdeithasol-economaidd. Hefyd mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynghori ynghylch dulliau ymchwil / holiaduron addas os yw Awdurdodau Lleol yn cynnal eu hastudiaethau eu hunain.
Athrofa Chwaraeon,Iechyd a Gwyddoniaeth Ymarfer Weledol Cymru:
Mae WISHES yn hybu ymwybyddiaeth gynyddol o weithgareddau ymchwil yn y byd chwaraeon, iechyd a gwyddoniaethau ymarfer oddi mewn i’r sefydliadau addysg uwch amrywiol ledled y wlad ac mae’n meithrin cydweithrediad newydd rhwng unigolion a sefydliadau yn y meysydd ymchwil hyn. Mae’r Chwaraeon Cymru yn aelod sefydliadol o WISHES ac mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynrychioli’r Chwaraeon Cymru ar ei Fwrdd Ymgynghorol. Mae hyn wedi profi’n fuddiol o safbwynt cefnogi ac arwain y gymuned academaidd wrth iddi drafod polisïau chwaraeon.
Y Rhwydwaith Hamdden cefn Gwlad (RhHCG):
Mae gan y RhHCG gylch gorchwyl yn y DG i gyfnewid a rhannu gwybodaeth er mwyn datblygu polisïau ac arferion da ar gyfer hamdden yng nghefn gwlad. Mae gan y rhwydwaith swyddogaeth ymchwil gref; gan noddi digwyddiadau a seminarau ymchwil a rhoi adnoddau at ei gilydd i gomisiynu gwaith ymchwil. O’r herwydd, mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynrychioli’r Chwaraeon Cymru yn y grwp hwn ac yn cyfrannu at yr is-grwp Ymchwil hefyd. Mae’r grwp yn bwysig er mwyn gosod y persbectif ehangach ledled y DG ar hamdden yng nghefn gwlad yn ei gyd-destun, gan rannu arfer dda a hybu’r arfer o gyfnewid gwybodaeth.
Fforwm Mynediad Cenedlaethol:
Mae cynrychiolydd o’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n aelod o’r Fforwm Mynediad Cenedlaethol – corff ymgynghorol anstatudol yn cynrychioli amrywiaeth eang o fuddiannau fel perchnogaeth o / rheoli tir, hamdden a chadwraeth natur. Gweinyddir a chadeirir y Fforwm gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) Ei brif ddiben yw cynghori CCGC ynghylch materion yn ymwneud â mynediad i gefn gwlad yng Nghymru. Fel aelod o’r grwp, mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n darparu data am lefelau cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden awyr agored a chysylltu gyda phartneriaid eraill sy’n gweithio tuag at nodau Dringo’n Uwch, sef annog defnyddio’r awyr agored i fod yn gorfforol egnïol.
Rhwydwaith Gweithgarwch Corfforol Cymru (RhGCC):
Mae RhGCC yn cysylltu’r unigolion a’r sefydliadau yn y sbectrwm gweithgarwch corfforol yng Nghymru gyda’i gilydd gan ddarparu cefnogaeth a hwyluso gweithio drwy bartneriaeth. Mae cynrychiolydd o’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n aelod o grwp llywio RhGCC. Mae hyn yn galluogi i’r Chwaraeon Cymru ddarparu cyngor a chyfarwyddyd ychwanegol o safbwynt ymchwilio a gwerthuso mewn perthynas â gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
Grŵp Arolygu Hamdden Awyr Agored Cyngor Cefn Gwlad Cymru/Comisiwm Coedwigaeth Cymru:
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru wedi comisiynu darn o waith ar y cyd er mwyn edrych ar ymarferoldeb cynnal Arolwg ar Hamdden Awyr Agored Ledled Cymru. Mae adran Ymchwil a Gwerthuso Chwaraeon Cymru wedi bod yn aelod allweddol o’u grwp ymgynghorol, yn arbennig mewn perthynas â ffurfio cyswllt gyda gwaith ymchwil ac arolygu arall y mae’r Chwaraeon Cymru yn ymgymryd ag ef.
Dyletswydd i Gydraddoldeb Rhywiol/Gweithgor Merched a Genethod:
Cynrychiolir yr adran ar weithgor mewnol y Cyngor sy’n rhoi sylw i Ferched a Genethod, gan ddarparu data i fesur cynnydd yr amcanion i gynyddu cyfranogiad merched mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae cynlluniau cyfranogiad fel Genethod yn Gyntaf a Hei-Ni / Ffit Gyda’n Gilydd yn cyfrannu at ddatblygu rhaglenni pellach i roi sylw i faterion anghydraddoldeb a’r rhwystrau sy’n atal cymryd rhan.
Mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn un o’r cyfranogwyr sy’n gweithio gyda’r Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal (CCC) ar brosiect i dreialu’r ddyletswydd cydraddoldeb hiliol arfaethedig yn y sector cyhoeddus. Mae hyn wedi cynnwys defnyddio darganfyddiadau o’r arolygon a’r gwaith gwerthuso i gyfrannu at y cynnydd a wneir a’r arfer dda yn adroddiad y CCC.
