Gwaith Ywchwil Arall
Arolwg Defnyddwyr Canolfan Cenedlaethol Chwaraeon Cymru:
Mae hon yn astudiaeth bob dwy flynedd o farn a nodweddion defnyddwyr AChC, boed yn athletwyr elitaidd, y cyhoedd yn gyffredinol, cynrychiolwyr y cyrff rheoli neu glybiau. Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n dylunio’r holiadur ac yn dadansoddi ac yn adrodd yn ôl am y data. Defnyddir y darganfyddiadau gan Reolwyr AChC i wella gwaith yr Athrofa.
Canolfan Cenedlaethol Chwaraeon Cymru:
Bu’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n dadansoddi ac yn adrodd yn ôl am arolwg staff Chwaraeon Cymru ar ran adran Adnoddau Dynol Chwaraeon Cymru. Cyflwynwyd canlyniadau’r arolwg hwn i’r Rheolwr Adnoddau Dynol (AD) ac i Gyfarwyddwyr Chwaraeon Cymru ac yna arenwyd cyfres o weithredoedd er mwyn sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn parhau i fod yn gyflogwr cyfrifol a phroffesiynol. Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n parhau i weithio gyda’r Rheolwr AD i ddatblygu a chynnal yr arolwg bob blwyddyn.
Cynllun Aberthu Cyflog:
Yn ddiweddar, cyflwynodd Chwaraeon Cymru gynllun aberthu cyflog ar gyfer prynu beiciau, gyda staff Chwaraeon Cymru yn cael dewis ildio rhan o’u cyflog trethadwy er mwyn derbyn beic. Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n gwerthuso’r cynllun ar gyfer y Chwaraeon Cymru. Defnyddir y canlyniadau gan yr adran Adnoddau Dynol fel sail ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol. Bydd o fudd hefyd i Gymunedau Egnïol wrth iddynt ddatblygu sylfaen o dystiolaeth ar gyfer rhaglenni yn y gwaith er mwyn cynyddu lefelau’r gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
Arolwg TGCh:
Bu’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n dadansoddi data ac yn llunio adroddiad ar gyfer adran TGCh Chwaraeon Cymru, er mwyn asesu effaith y newidiadau TGCh a weithredwyd o ganlyniad i Strategaeth TGCh 2003-2006, er mwyn mesur lefel bresennol y gwasanaethau a ddarperir gan yr adran TGCh ac i weithredu fel sail ar gyfer datblygu Strategaeth TGCh newydd ar gyfer 2006-2009.
Adolygu Ffurflenni Grant Corffedig Chwaraeon Cymru:
Bu’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynnal cyfres o grwpiau ffocws ledled Cymru gyda phartneriaid traddodiadol a phartneriaid newydd, er mwyn cael gwybod barn y cyfranogwyr am sut allai’r Chwaraeon Cymru wella’r broses ymgeisio ar gyfer cyllid Sportsmatch Cymru a’r Gist Gymunedol. Roedd yr adran yn gyfrifol am ddyfeisio’r amserlen gyfweld, y fethodoleg, y dadansoddi a’r adrodd yn ôl. Bydd yr adroddiad terfynol yn cyfrannu at ddatblygu pecynnau newydd a fydd yn hwyluso ceisiadau gan bob grwp cymwys. Gwnaed y gwaith hwn mewn partneriaeth â thîm Grantiau Chwaraeon Cymru a’r adran Farchnata a CC.
Marchanata Cymdeithasol:
Oddi mewn i ‘Fframwaith Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol’ y Cyngor, tynnwyd sylw at farchnata cymdeithasol fel arf y byddai’r Chwaraeon Cymru yn ei ddefnyddio a’i ddatblygu. O ganlyniad, mae’r Adran wedi ymgymryd ag ymchwil helaeth i farchnata cymdeithasol gan gyflwyno darganfyddiadau’r gwaith hwn i adran Marchnata ac AD CChC a’r timau Cymunedau Egnïol Rhanbarthol. Diben y cyflwyniadau hyn yw rhoi gwybod i gydweithwyr beth yw marchnata cymdeithasol, ei fanteision, yr enghreifftiau byd-eang o farchnata cymdeithasol llwyddiannus a’r defnydd posibl o farchnata cymdeithasol yn eu gwaith.
Cynlluniau Chwarae: cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol?:
Yn cael ei hwyluso gan Wasanaethau Chwarae Caerdydd, mae’r gwaith ymchwil empirig hwn yn edrych ar ansawdd cyfraniad ‘chwarae’ i lefelau gweithgarwch corfforol plant. Gan ddefnyddio technegau’n arsylwi’r cyfranogwyr, edrychwyd ar weithgarwch corfforol fel rhan o gynlluniau chwarae yn ystod yr haf; yn arbennig, gweithredoedd a rhyngweithiad Gweithwyr Chwarae a phlant a’r materion yn ymwneud ag eitrhio / cynnwys a chyfranogiad / diffyg cyfranogiad. Bydd y data’n cael ei ddadansoddi a pharatoir adroddiad ar gyfer Chwaraeon Cymru a Gwasanaethau Chwarae Caerdydd.
Barn am Ystafelloedd Newid a Chit AG ymhlith Disgyblion Ysgolion Uwchradd:
Amcan y prosiect ymchwil hwn ar ffurf astudiaeth achos oedd canfod barn disgyblion uwchradd am ystafelloedd newid a chit AG. Mae diffyg ymchwil penodol yn edrych ar y rhwystrau sy’n atal cyfranogiad; bydd yr ymchwil hwn yn cyfrannu at ac yn datblygu’r gwaith ymchwil cyfredol yn y maes hwn ac yn darparu gwybodaeth ymarferol ar gyfer ysgolion a swyddogion Pobl Ieuainc Egnïol Chwaraeon Cymru i hwyluso cyfranogiad mewn chwaraeon.
