Gwerthuso
Menter Nofio Am Ddim
Mae Chwaraeon Cymru’n gweithredu fel asiant Llywodraeth Cynulliad Cymru gan gomisiynu a rheoli gwerthusiad o’r Fenter Nofio Am Ddim ar gyfer plant, pobl ieuainc a phobl hyn. Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cadeirio ac yn gwasanaethu Grwp Llywio’r Gwerthusiad.
Partneriaeth Hamdden Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru (PHAAGOC)
Mae’r cylch gorchwyl yn datgan ei bod yn ofynnol i Chwaraeon Cymru"gefnogi ar sail peilot wedi’i werthuso am 3 blynedd gan ddechrau yn 2005-06 y gwaith o weithredu’r cynllun a gyflwynwyd gan Bartneriaeth Hamdden Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru sy’n ceisio cynyddu cyfranogiad cymunedau lleol mewn gweithgareddau antur awyr agored". Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso wedi cynllunio briff gwerthuso a bydd yn cefnogi’r gwaith o fonitro a gwerthuso’r cynllun peilot am gyfnod o dair blynedd drwy gyfrwng cyfarfodydd gyda staff y bartneriaeth ac ymweliadau â hwy, cynllunio deunyddiau monitro a chymorth gyda chynhyrchu adolygiadau blynyddol yn ogystal â chynhyrchu adroddiad gwerthuso cyffredinol.
Ffit Gyda’n Gilydd
Menter gan Chwaraeon Cymru yw Ffit Gyda’n Gilydd ac fe’i cyflwynwyd a’i threialu fis Ebrill 2005 gan geisio cynyddu lefelau gweithgarwch merched a genethod drwy gyfrwnt cerdded a loncian. Lleolwyd yr ymgyrch mewn chwe awdurdod lleol gyda’r bwriad o’i hehangu ledled Cymru. Arweiniodd yr adran Ymchwil a Gwerthuso werthusiad y fenter. Roedd hyn yn cynnwys casglu data ansoddol a meintiol er mwyn deall y prosesau o sefydlu Ffit Gyda’n Gilydd ac i fesur ‘llwyddiant’ y fenter. Cyflwynwyd darganfyddiadau’r gwerthusiad i Uwch-Reolwyr y Cymunedau Egnïol ac arweiniodd yr argymhellion at gefnogaeth ariannol i’r fenter am gyfnod peilot pellach o 12 mis.
Cynhelir gwerthusiad dilynol fis Ionawr 2007, dan arweiniad yr adran Ymchwil a Gwerthuso unwaith eto. Bydd yr adran yn cyflwyno darganfyddiadau’r ail gam hwn yn ogystal â chyfres o argymhellion ar gyfer y Cymunedau Egnïol fel bod modd dysgu gwersi am sut i ddatblygu canlyniadau hirdymor, cynaladwy ar gyfer dull cydlynol o weithredu er mwyn cynyddu lefelau gweithgarwch oedolion Cymru.
Panel Syniadau’r Sector Gwirfoddol
Mae Panel Syniadau’r Sector Gwirfoddol yn faes sy’n perthyn i Gymunedau Egnïol ac sy’n ymwneud â gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol fel rhan o agenda Chwaraeon Cymru i edrych ar ffyrdd newydd a gwreiddiol o weithio ar a chyflwyno’r neges gweithgarwch corfforol i gymunedau ledled Cymru. Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n aelod gweithredol o’r Panel Syniadau ac ymgynghorir â’r adran ynghylch pob mater yn ymwneud ag ymchwil, gwerthuso a monitro.
Panel Syniadau’r Mannau Egnïol
Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n aelod gweithredol o’r Panel Syniadau ac ar hyn o bryd yn gwerthuso’r pum prosiect peilot mewn clybiau a chymdeithasau chwaraeon ledled Cymru. Amcan y gwerthusiad yw edrych ar i ba raddau y mae tri model o arallgyfeirio mewn clybiau’n llwyddo i ehangu’r defnydd o gyfleusterau ac arwain at gynnydd llwyddiannus a chynaladwy yn y lefelau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Un rhan allweddol o’r gwerthusiad hwn yw deall pan fod modelau penodol yn llwyddo (a methu) mewn cyd-destunau arbennig. Mae’r gwerthusiad hwn yn ddarn pwysig o waith i’r Chwaraeon Cymru a bydd yn helpu i lunio gwaith y Cymunedau Egnïol.
Panel Syniadau’r Gweithleoedd Egnïol
Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n darparu rôl ymgynghorol ar gyfer Panel Syniadau’r Gweithleoedd Egnïol ym mhob maes ymchwil, gwerthuso a monitro, ac yn cyfrannu at drafodaethau ac yn gwneud cyfraniad. Mae’r gweithle wedi troi’n fan sy’n cynnig cyfle unigryw i annog oedolion a’u teuluoedd i gynyddu lefelau eu gweithgarwch corfforol. Er mwyn annog gweithwyr CChC i hybu iechyd a gweithgarwch corfforol, datblygodd yr adran Ymchwil a Gwerthuso arolwg mewnol yn ceisio darparu corff o dystiolaeth i ddangos yr amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd sy’n angenrheidiol ym marn y staff er mwyn cymryd rhan mewn 5x30 munud o weithgarwch corfforol yr wythnos ym mhob adran o’r Chwaraeon Cymru, gan arwain yn y pen draw at leihau absenoldebau o’r gwaith, gwella cynhyrchiant a datblygu gweithlu iach. Yn ychwanegol at hyn, mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n arwain elfen ymchwil a gwerthuso’r prosiect peilot yn y gweithle gyda gweithwyr Tesco. Bydd hyn yn galluogi i Chwaraeon Cymru ddysgu am ymwneud â gwahanol fathau o bartneriaid i hybu gweithgarwch corfforol yn y gweithle.
