Gwasanaethau Ymchwil a Gwybodaeth

Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell

Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell

GWASANAETHAU GWYBODAETH CHWARAEON CYMRU

Mae’r adran Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnwys llyfrgell fechan o ddogfennau craidd am chwaraeon a hamdden gorfforol; mae mwy a mwy o ddogfennau’n cael eu cadw ar ffurf electronig erbyn hyn. Er nad yw’r llyfrgell ar agor i’r cyhoedd bellach, rydym yn fwy na pharod i ymateb i ymholiadau a darparu cyfeiriadau, os yw ein hadnoddau’n caniatáu hynny.

Gellir cael gafael ar gyhoeddiadau Chwaraeon Cymru o’r Ganolfan Wybodaeth; mae rhestr ar gael ar gais. Mae’r Ganolfan yn cynhyrchu dau fwletin ymwybyddiaeth ar hyn o bryd. Mae’r Bwletin Chwarterol o Gyhoeddiadau am Chwaraeon a Hamdden Gorfforol yn rhestru’r llyfrau diweddar a’r erthyglau diweddar mewn cyfnodolion ac mae’n cynnwys crynodeb byr am bob un. Mae GwybChwaraeon yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn ac yn rhestru’r erthyglau sydd o ddiddordeb i hyfforddwyr ac i wyddonwyr chwaraeon.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at:

Y Swyddog Gwybodaeth, Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW

Ffôn: 0845 846 0026 Ffacs: 0845 046 0014

E-bost: gwybodaeth@chwaraeoncymru.org.uk