YSGOL YNG NGHEREDIGION AR FRIG Y DOSBARTH
8 Ion 2010
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi dyrchafu Ysgol Uwchradd Aberteifi yng Ngheredigion i frig y dosbarth am ei ymdrechion gradd A i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol.
Mae’r ysgol, yr enillodd ei Swyddog 5x60, Nia Jones, wobr Swyddog y Mis ar gyfer mis Rhagfyr, wedi derbyn gwobr Ysgol y Mis ar gyfer Ionawr – gwobr a ddyfernir gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i weithredu’n lleol gan Gyngor Sir Ceredigion.
Diben 5x60 yw cael disgyblion ysgolion uwchradd nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden gorfforol fel arfer i fod yn fwy egnïol yn amlach ac mae’r cynllun yn sicr yn sgorio marciau uchel. Yn wir, mae 98% o’r holl ysgolion prif ffrwd yng Nghymru wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yn awr.
Mae mwy na chwarter y disgyblion yn Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi rhoi cynnig ar weithgareddau 5x60 ers i’r cynllun gyrraedd yr ysgol ym mis Medi 2008 a gyda gweithgareddau newydd ar yr amserlen ar gyfer eleni, mae disgwyl i lawer mwy gofrestru.
Mae llu o weithgareddau’n cael eu cynnig yn yr ysgol, yn cynnwys pêl osgoi, bocsarfer i’r genethod, criced, tenis, trampolinio, syrffio a badminton i enwi dim ond rhai. Mae pêl osgoi bob amser yn ffefryn mawr ymhlith y disgyblion, gyda badminton a phêl droed yn dod yn ail agos.
Ond mae’r disgyblion yn mynd un cam ymhellach na dim ond cymryd rhan; maent hefyd yn rhoi cynnig ar arwain y sesiynau hefyd. Meddai Nia Jones, y Swyddog 5x60:
"Bu pedwar bachgen yn y chweched dosbarth yn yr ysgol yn chwarae rhan flaenllaw yn y sesiynau pêl fasged a sefydlwyd fis Medi diwethaf ac maent wedi gweithio’n galed iawn er mwyn ennyn diddordeb ymhlith y disgyblion eraill. Ers hynny, maent wedi datblygu i fod yn hyfforddwyr pêl fasged cymwys gan hyfforddi timau iau a hŷn ym Mhencampwriaethau Pêl Fasged Cymru, yn ogystal â dyfarnu a hyfforddi timau’r ysgol mewn gemau yn erbyn ysgolion lleol eraill; maent yn glod iddynt hwy eu hunain ac i weddill yr ysgol."
Meddai Rob Evans, y Pennaeth AG yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, am lwyddiant y cynllun hyd yma,
"Mae 5x60 wedi bod o gymorth mawr wrth ddarparu amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon na fyddai athrawon AG yn cael amser i roi sylw iddynt. Mae wedi bod o fudd mawr i’r ysgol o ran y cyfleoedd y mae wedi helpu i’w creu a’r awyrgylch cymunedol sydd wedi’i feithrin ymhlith y staff a’r disgyblion. Mae wedi bod yn arbennig o braf a phleserus gwylio’r disgyblion hŷn yn helpu’r rhai iau i ddysgu a gwneud cynnydd mewn nifer o wahanol chwaraeon a chwaraeon llai traddodiadol hefyd drwy fod yn aelodau o dîm gwirfoddoli 5x60."
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Un o fformiwlâu llwyddiannus 5x60 yw bod y disgyblion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod amseroedd cinio ac ar ôl ysgol. Yr her yn awr yw agor drysau’r ysgolion ar gyfer 5x60 ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae llwyddiant sefydliadau fel yr Ysgol Uwchradd yn Aberteifi’n gosod y sylfeini ar gyfer nod hirdymor Cyngor Chwaraeon Cymru o sicrhau bod cymaint ag y bo modd o’r ieuenctid hyn yn symud ymlaen i fod yn oedolion sy’n byw’n iach."
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn datgelu bod mwy o ieuenctid ledled Cymru’n estyn am eu hesgidiau ymarfer er mwyn cymryd rhan yn 5x60. Mae’r rhaglen wedi cael ei hyrwyddo gan un a enillodd fedal arian Olympaidd, David Davies, gan Stuart Cable a chan gyflwynydd Hip Neu Sgip, Alex Jones.
Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu hysgol ar gyfer Ysgol y Mis 5 x 60.