Dechrau chwilio am hoff brosiectau’r DU a ariennir gan y Loteri
11 Ion 2010
Mae’r seren deledu, Sally Lindsay, yn galw ar bobl Cymru i enwebu eu hoff brosiect a ariennir gan y Loteri yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2010.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig[1], mae dros £62 miliwn o arian y Loteri wedi mynd at brosiectau yng Nghymru a bellach mae'r Loteri Genedlaethol yn annog y prosiectau hyn, a miloedd o brosiectau tebyg iddynt ar draws y DU sydd wedi derbyn arian yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf, i gystadlu yn y Gwobrau ac ennill cydnabyddiaeth am eu gwaith.
Dywed llysgennad Gwobrau’r Loteri Genedlaethol a chyn-actores Coronation Street, Sally: "Mae'r Gwobrau hyn yn gais blynyddol i ddod o hyd i hoff brosiectau’r DU a ariennir gan y Loteri ac mae’n cydnabod ymroddiad y bobl y tu ôl iddynt sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau."
Mae Sally’n parhau: "Mae chwaraewyr y Loteri yn codi £25 miliwn bob wythnos i brosiectau mawr a bach, sydd o fudd i bobl, lleoedd a chymunedau o bob cwr o’r DU. Os yw prosiect a ariennir gan y Loteri wedi cael effaith bositif ar eich ardal leol, wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch bywyd neu os ydych chi'n bersonol yn gysylltiedig â phrosiect sy'n gweddnewid eich cymuned gyda help arian y Loteri, dyma eich cyfle i'w enwebu."
Bydd y rhai sy’n cyrraedd rownd derfynol Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn ymddangos mewn sioe deledu amser brig yn llawn sêr ar BBC1 yn ddiweddarach eleni. Byddant hefyd yn cael cyfle i ennill gwobr ariannol o £2,000[2].
Y llynedd, cyrhaeddodd deg prosiect o Gymru’r rownd gynderfynol a chyrhaeddodd tri phrosiect Cymreig y rownd derfynol - Theatr Odyssey, Caerdydd yn y categori Celfyddydau, Parc Sglefrio Glynrhedynog, Rhondda, yn y categori Chwaraeon a'r Feel Good Factory, Cwm Cynon yn y categori Gwirfoddol/Elusennol.
Dywed Michelle Lenton-Johnson o’r Feel Good Factory:
"Roedd cymryd rhan yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol y llynedd yn brofiad gwych. Fe wnaethom gyrraedd y cyfnod olaf ac fe ddaethom yn ail yn ein categori. Fe wnaeth bod yn rhan o'r Gwobrau ein helpu i godi ein proffil, cysylltu â'r cyhoedd a dathlu'r gwaith yr ydym yn ei wneud. Roedd y gefnogaeth a gawsom gan y gymuned yn ffantastig."
Mae saith categori i’r Gwobrau – pob un yn adlewyrchu un o feysydd ariannu’r Loteri: Chwaraeon; Treftadaeth; Celfyddydau; Yr Amgylchedd; Gwirfoddol/Elusennol (mewn cysylltiad â chylchgrawn Woman), Iechyd ac Addysg.
Felly os ydych chi eisiau gweld enillydd o Gymru yn un neu’n fwy o’r categorïau hyn yn 2010 ymwelwch â www.achosiondayloteri.org.uk am ragor o wybodaeth. Gellir dechrau enwebu o 9am Ddydd Llun 11 Ionawr trwy ffonio 020 7324 4366 neu ymweld â’r wefan. Rhaid derbyn yr holl geisiadau erbyn 5pm Ddydd Gwener 12 Chwefror .
[1] Y ffigurau wedi’u seilio ar y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2008 – 31 Mawrth 2009
[2] Mae’r £2000 yn wobr ariannol i’r enillwyr wario ar eu prosiect; nid yw’n grant gan y Loteri