Gosod strwythurau ar gyfer llwyddiant pellach i bencampwyr chwaraeon yng Nghymru

19 Tach 2009

Roedd yr adroddiad, a gynhyrchwyd gan ymgynghorwyr annibynnol a’i gyhoeddi ym mis Medi, yn asesu systemau a phrosesau sy’n cefnogi chwaraeon ar y lefel elitaidd yng Nghymru. Roedd hefyd yn edrych ar y llwybrau sy’n bodoli i sicrhau ein bod yn sylwi ar ddoniau ifanc yng Nghymru ac yn eu datblygu.

Meddai Alun Ffred Jones:

Helen Tucker bike 2"Mae chwaraeon yn bwysig iawn i nifer o bobl yng Nghymru; i’r fath raddau bod ein synnwyr o les cenedlaethol yn codi ac yn gostwng gyda llwyddiant cymharol ein chwaraewyr, fel pe bai llwyddiant ym myd chwaraeon yn faromedr i’n hysbryd cenedlaethol."

"Mae’r adolygiad hwn yn cydnabod ein bod, am wlad o faint Cymru, yn llwyddiannus iawn, ac mae’n cydnabod y rhan mae’r Cyngor Chwaraeon a’r cyrff cenedlaethol sy’n rheoli chwaraeon wedi ei chwarae i gael y llwyddiant hwnnw."

"Rydym wedi edrych yn fanwl ar yr hyn y mae’r adroddiad wedi ei ddweud o ran gwella’r systemau a’r strwythurau sydd wedi’u sefydlu i gefnogi chwaraeon ar y lefel uchaf yng Nghymru, a thrwy gydweithio’n agos â’r Cyngor Chwaraeon ac eraill, byddwn yn ail-ddatgan ein polisïau a’n targedau ar gyfer chwaraeon elitaidd yng Nghymru yn y misoedd nesaf."

Mae Philip Carling – Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru – yn edrych ymlaen at godi’r bar:

"Yn 2008, gwelsom lwyddiannau nodedig yng Ngemau Olympaidd Beijing a’r Gemau Paralympaidd. Eleni, rydym wedi gweld perfformiadau addawol – rydym yn bencampwyr y byd ym maes rygbi saith bob ochr, ymddangosodd Becky Brewerton am yr eildro yng nghwpan Solheim, ac enillodd Nicole Cooke ei degfed teitl rasio ffordd Prydeinig."Philip Carling 01

Rising Star_Daniel Lucker"A’r hyn sydd hyd yn oed yn fwy addawol yw bod athletwyr ieuengach wedi dod i’r amlwg eleni. Mae’r nofiwr Jazz Carlin a’r beiciwr Becky James yn dechrau gwneud enw iddynt eu hunain, ac mae’n debygol y bydd y ddau yn ymddangos yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi y flwyddyn nesaf. Mae’n argoeli’n dda nid yn unig ar gyfer Llundain 2012 ond hefyd pan fydd Gemau’r Gymanwlad yn cyrraedd Glasgow yn 2014."

"Rydym yn croesawu’r cyfle i adolygu’r sefyllfa bresennol i sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei dargedu’n ddoeth, ac yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru i nodi cyllid priodol i gynnal ein llwyddiant, ac i ychwanegu ato. Mae’n arbennig o amserol gan bod y DU yn denu digwyddiadau chwaraeon mawr – gan gynnwys Cwpan Ryder yn 2010 – ac mae’n hanfodol bod Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad o ran rhagoriaeth ym myd chwaraeon."