TREFNIADAU DIOGELU GWELL I GYMRU

12 Hyd 2009

Heddiw (12 Hydref) daw rheoliadau newydd i rym sy’n diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed rhag y sawl a all eu rhoi mewn perygl.

Mae’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a’r Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA) yn cyflwyno’r Cynllun Fetio a Gwahardd (VBS) newydd sy’n cael ei lansio heddiw. Mae rheoliadau tynnach y Cynllun hwn wrth wraidd strategaeth Llywodraeth y DU ar gyfer sicrhau bod aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas yn cael eu diogelu’n well.

Crëwyd y VBS yn dilyn Ymchwiliad Bichard i lofruddiaethau Soham, a oedd yn argymell nifer o welliannau allweddol i’r system sy’n gwahardd unigolion anaddas rhag gweithio gyda phlant neu oedolion bregus. Bydd rheolaethau llymach yn dechrau cymryd lle’r trefniadau cyfredol sy’n pennu pwy sy’n addas i weithio gyda phlant ac oedolion bregus yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Bydd y camau diogelu cryfach hyn yn cael eu cyflwyno heddiw, gan roi mwy o ddiogelwch i blant ac oedolion sy’n agored i niwed:

  • Mae bellach yn drosedd i unigolion sydd wedi’u gwahardd i ymgeisio am waith gyda phlant neu oedolion bregus mewn ystod ehangach o swyddi. Bydd cyflogwyr yn wynebu dirwyon ariannol o hyd at £5,000 os ydynt yn methu â rhoi gwybod am weithiwr sy’n niweidio neu’n peri risg i blant neu oedolion bregus, a byddant yn wynebu cosbau troseddol trwy gyflogi unigolyn sydd wedi’i wahardd ar draws ystod ehangach o waith;
  • Bydd y tair rhestr wahardd gyfredol (POVA, POCA a Rhestr 99) yn cael eu disodli gyda chreu dwy restr wahardd newydd a weinyddir gan yr Awdurdod Diogelu Annibynnol yn hytrach na nifer o adrannau’r Llywodraeth. O hyn ymlaen gellir cynnal gwiriadau o’r ddwy restr hon fel rhan o wiriad manylach y Swyddfa Cofnodion Troseddol;
  • Bydd swyddi ychwanegol a swyddi gwirfoddol yn cael eu cynnwys yn y trefniadau gwahardd, gan gynnwys cymedrolwyr ystafelloedd sgwrsio i blant ar y rhyngrwyd, a nifer fawr o staff y GIG;
  • Mae’n ddyletswydd ar gyflogwyr, y gwasanaethau cymdeithasol a rheoleiddwyr proffesiynol roi gwybod i’r Awdurdod Diogelu Annibynnol am unrhyw wybodaeth ynghylch, er enghraifft, pam eu bod wedi atal neu ystyried atal unigolyn rhag gweithio gyda grwpiau sy’n agored i niwed lle maent wedi ystyried iddynt achosi niwed neu gyflwyno risg.

Yng Nghymru, ychwanegwyd cam diogelu pellach er mwyn atgyfnerthu diffiniadau’r VBS a rhwystro person sydd wedi’i wahardd o ganlyniad i’r troseddau mwyaf difrifol fel trais, llofruddiaeth neu gipio, rhag gweithio byth eto na gwirfoddoli mewn gweithgareddau a reolir.

Dywedodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru: "Bydd y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cynnig mwy o ddiogelwch ar gyfer y mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae’r Cynllun yn golygu y bydd mwy o bobl sy’n gweithio gyda grwpiau o’r fath yng Nghymru yn agored i gael eu craffu, ond mae’r Cynllun yn defnyddio synnwyr cyffredin ac yn ddull cymesur a luniwyd i ddiogelu ein plant a’n hoedolion bregus."

Mae sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ledled Cymru sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed yn croesawu’r Cynllun.

Meddai Elizabeth Flack, Pennaeth yr Uned Cofnodion Troseddol yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

"Mae’n hanfodol fod diogelu plant ac oedolion bregus yn hollbwysig ond ar yr un pryd cydnabyddir na ddylid cyflwyno rhwystrau ychwanegol a fydd yn gwahardd ymgysylltiad. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sylweddoli bod mynediad hawdd i ganllawiau clir a chywir am wybodaeth ar ddiogelu yn bwysig i hyn. Mae’n unigryw o fewn y DU yn ariannu corff mantell cenedlaethol y Swyddfa Cofnodion Troseddol - Uned Cofnodion Troseddol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae’r Uned, a sefydlwyd yn benodol ar gyfer gwirfoddolwyr a’r sector gwirfoddol, yn darparu gwasanaeth am ddim i gael mynediad i wiriadau’r CRB ac yn rhoi cyngor ar bob agwedd ar ddatgelu a chyflwyno’r Cynllun Fetio a Gwahardd a’r Awdurdod Diogelu Annibynnol. Mae’r defnydd o ddatgeliadau’r CRB a’r gofyniad cyfatebol i gofrestru â’r ISA o fis Gorffennaf 2010, o’i ddefnyddio ochr yn ochr â gwyliadwriaeth, cymorth a goruchwyliaeth dda, yn rhoi mwy o ddiogelwch i’r holl grwpiau bregus er budd y gymuned gyfan."

Dywedodd Huw Jones, Prif Weithredwr Cyngor Chwaraeon Cymru: "Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cefnogi cyflwyno’r Cynllun Fetio a Gwahardd. Mae’n bwysig bod diogelu plant ac oedolion bregus yn rhan annatod o ddarparu gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Wrth groesawu’r canllawiau newydd, dylai darparwyr gweithgarwch corfforol a chwaraeon sicrhau bod gweithdrefnau recriwtio diogel cyfredol yn aros yn eu lle.

"O fewn Cymru credwn fod disgwyliadau pendant a chlir ar sefydliadau chwaraeon o ran diogelu, ac yn ddiweddar rydym wedi cydweithio â’r NSPCC ( yr Uned Diogelu Plant mewn Chwaraeon) i ddatblygu’r Fframwaith ar gyfer Diogelu ac i amddiffyn plant mewn chwaraeon yng Nghymru."

Sesiynau Briffio Fetio a Gwahardd

Yn y flwyddyn newydd bydd y Swyddfa Cartref, mewn partneriaeth a CLlC, yn cynnig dau sesiwn briffio Fetio a Gwahardd yng Nghymru. Bydd rheolwyr y sector chwaraeon yn derbyn gwahoddiad i fynychu y digwyddiadau hyn ar 22ain Chwefror a'r 1af o Fawrth.

Gwybodaeth i Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol Cymru (CLlCC)

Mae'r NSPCC (CPSU) mewn partneriaeth a CCHC, wedi bod yn diweddaru CLlC Cymru drwy gyfarfodydd swyddogion arweiniol diogelu plant. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 26ain Ionawr 2010 yn Athrofa Chwaraeon Cymru. Am ddogfennau briffio sector chwaraeon ewch i wefan y CPSU :

www.thecpsu.org.uk

Am ragor o wybodaeth ar y digwyddiadau uwch, cysylltwch ac Emma Tobutt, Uwch Swyddog Cydraddoldeb ac Amddiffyn Plant i Gyngor Chwaraeon Cymru ar 02920 338 285.