Ysgol o Hwlffordd ar Frig y Dosbarth

5 Hyd 2009

Mae Ysgol Tasker Millward yn Hwlffordd wedi cael ei henwi’n Ysgol y Mis 5x60 ar gyfer mis Hydref am ei hymdrechion i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol.

Mae mwy o blant a phobl ieuainc yn yr ysgol yn codi hwyl, yn troelli ac yn dawnsio, diolch i swyddog 5x60 yr ysgol, Daniel Field.

Dyfarnwyd y teitl anrhydeddus gan Gyngor Chwaraeon Cymru, a seiliodd yr anrhydedd ar weithgareddau allgyrsiol yr ysgol.

Diben cynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yw cael mwy o ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.

Mae Field, sydd ond wedi bod yn y swydd am flwyddyn, wedi cyflwyno tua 16 o weithgareddau chwaraeon newydd yn rhan o amserlen yr ysgol, yn amrywio o ddawnsio stryd a chodi hwyl mewn gemau i denis a badminton.

Meddai Field, sy’n 34 oed, "Y gweithgaredd mwyaf poblogaidd ymhlith y merched yw’r sesiynau dawnsio stryd a chodi hwyl mewn gemau ond ymhlith y bechgyn, rygbi a phêl droed yw’r ffefrynnau cadarn, ond mae pêl fasged a phêl osgoi’n profi’n llwyddiant mawr hefyd.

"Yr hyn sy’n wych am 5x60 yw bod y gweithgareddau’n apelio at griw gwahanol o blant – plant na fyddent fel rheol yn cymryd rhan mewn chwaraeon, neu a fyddai’n sefyll ar y llinell ochr."

Mae Field, cyn-Athro AG yn Llundain sydd bellach yn byw yn Hwlffordd, wedi denu ychydig dan 40% o’i ddisgyblion i gymryd rhan yng ngweithgareddau 5x60 yn yr ysgol. Meddai wedyn, "Mae gallu hwyluso’r holl weithgareddau amrywiol hyn ar gyfer y plant a gweld y manteision yn rhoi hwb mawr i mi.

"Mae’n braf cael dychwelyd i’r ysgol roeddwn yn ei mynychu fel plentyn a gweithio gyda rhai o’r athrawon a arferai fy nysgu i. Mae’r ysgol wedi bod yn gefnogol iawn ac mae’r adran AG wedi bod yn gefn mawr i mi, yn ogystal ag adrannau eraill yn yr ysgol.

"Mae’r plant, yn ogystal â’r ysgol, wedi croesawu’r rhaglen hon a bydd nifer y plant sy’n cymryd rhan yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn yn awr," ychwanegodd.

Mae Tasker Millward hefyd yn cynnal sesiynau tenis bwrdd, criced kwik, golff, pêl foli, canŵio, hyfforddiant ffitrwydd, rygbi TAG i ferched a phêl droed i ferched.

Meddai Jane, Zoe a Lucy, disgyblion blwyddyn 7 yn Ysgol Tasker Millward:

"Mae’n hwyl ac yn rhywbeth i’w wneud yn ystod yr egwyliau yn lle dim ond chwarae o gwmpas y tu allan. Rydym yn cael dewis y gweithgaredd ar ddechrau’r tymor ac mae Mr Field yn ei gynnal i ni."

"Rydych yn dysgu pethau newydd am ddawnsio a gwahanol ffyrdd o’u gwneud nhw. Mae hefyd yn egnïol iawn."

"Mae’n fwy o hwyl na’r gwersi AG oherwydd rydych yn gwneud rhywbeth rydych eisiau ei wneud, nid rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei wneud."

Mae 5x60 wedi bod yn llwyddiant ysgubol mewn ysgolion yng Nghymru gyda 98% o’r ysgolion uwchradd prif ffrwd yn rhan o’r cynllun bellach.

Mae pob ysgol uwchradd yn Sir Benfro’n perthyn i’r cynllun ac mae hynny’n golygu bod cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar hyd a lled y sir.

Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu hysgol ar gyfer Ysgol y Mis 5 x 60.