DYFARNU TEITL ANRHYDEDDUS I ARWR O GAERFFILI
1 Hyd 2009
Mae Neil Roberts, sy’n gweithio yn Ysgolion Cyfun Rhymni a Heolddu, wedi cael ei gydnabod gan Gyngor Chwaraeon Cymru am ei ymdrechion i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol.
Wedi’i enwi yn Swyddog 5x60 y Mis ar gyfer mis Hydref, dim ond un yw Neil o blith y llu o arweinwyr sydd wedi’u recriwtio gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Yn cael ei gefnogi’n lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, diben y cynllun yw cael mwy o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.
Mae’r gŵr 29 oed, o Faesycymer ger Caerffili – cyn-bencampwr 800m ysgolion De Cymru – wedi darbwyllo heidiau o ddisgyblion i gamu oddi ar y llinellau ochr a chymryd rhan yn sesiynau 5x60.
Mae yn y swydd ers bron i ddwy flynedd ac mae wedi cyflwyno nifer helaeth o weithgareddau allgyrsiol yn ystod y cyfnod hwnnw, gyda rygbi tag, pêl droed, badminton a dawnsio stryd yn profi fwyaf poblogaidd.
Meddai, "Mae gan 5x60 rôl anferth i’w chwarae mewn ysbrydoli disgyblion i gymryd rhan mewn chwaraeon. Yng Nghaerffili, rydym wedi cael effaith bositif ar y gymuned, gyda rhai clybiau’n adrodd yn ôl am lefelau cynyddol o gymryd rhan oherwydd y cysylltiadau ysgol a chlwb sy’n cael eu creu."
"O safbwynt yr ysgol, mae’r athrawon wedi bod yn adrodd yn ôl am lawer llai o ddigwyddiadau o amgylch yr ysgol tra bo gweithgareddau 5x60 yn cael eu cynnal, a hefyd maent wedi sylwi ar ymddygiad gwell rhai o’r unigolion sy’n cymryd rhan yn aml."
Meddai Phil Hurd, y Pennaeth AG yn Ysgol Gyfun Rhymni, "Gyda mwy na 25 mlynedd o brofiad yn dysgu addysg gorfforol, gallaf ddweud mai’r fenter 5x60 sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar gyfraddau cymryd rhan. Mae wedi bod yn hynod gyffrous gweld pob gallu’n rhoi cynnig ar weithgareddau newydd. Mae ein Swyddog 5x60, Neil, wedi cael effaith hynod bositif ar gynyddu cyfraddau cymryd rhan."
Ac mae’r disgyblion yn canu clodydd eu Swyddog 5x60 hefyd.
Meddai Nikita Price, disgybl ym mlwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Rhymni:
"Ers i mi ddechrau yn yr ysgol gyfun rwyf wedi bod yn cymryd rhan mewn dawnsio stryd a nawr rwy’n sefyll arholiadau mewn dosbarthiadau dawns y tu allan i’r ysgol. Mae Neil yn Swyddog 5x60 da, mae’n dod i’n gweld ni yn y gwasanaeth boreol ac yn ceisio cael pobl i gymryd rhan. Rwy’n mwynhau cymryd rhan yn y rhan fwyaf o’r gweithgareddau, yn enwedig pêl hir Danaidd a dawnsio stryd!"
Wrth ei fodd gyda llwyddiant y rhaglen, meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae cynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru’n profi’n llwyddiannus wrth hudo disgyblion oddi ar y llinellau ochr ac i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae gweithgareddau fel codi hwyl mewn gemau, dawnsio stryd a golff Frisbee i gyd yn annog y disgyblion mwyaf amharod ac yn agor y drws i chwaraeon eraill mwy traddodiadol a ffordd o fyw egnïol."
Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu swyddog.