5x60 YN CYNHYRFU’R DYFROEDD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR
22 Medi 2009
Mae 150 o bobl ieuainc o bob cwr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi mynychu’r ŵyl syrffio gyntaf i gael ei chynnal rhwng ysgolion yn Rest Bay, Porthcawl. Roedd yr achlysur hwn yn benllanw ar haf llwyddiannus o sesiynau datblygu syrffio sydd wedi’u cefnogi gan Gyngor Chwaraeon Cymru.
Arweiniwyd y rhaglen gan Wasanaeth Ieuenctid Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi ffurfio cysylltiadau gyda’r Adran Pobl Ieuainc Egnïol, ysgolion lleol ac amrywiaeth o grwpiau cymunedol.
Cymerodd nifer fawr o fechgyn a merched rhwng 11 a 14 oed o bob ysgol uwchradd yn y sir ran yn yr achlysur, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau traeth, yn cynnwys syrffio, pêl droed tywod, rygbi tag, dawns a phêl foli ar y traeth.
Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn cefnogaeth y Cyngor Chwaraeon ar gyfer cael cydlynydd chwaraeon ysgol ym mhob ysgol uwchradd fel rhan o’r rhaglen chwaraeon ysgol genedlaethol, 5x60. Mae 5x60 wedi bod o gymorth gyda chynnig digwyddiadau a gweithgareddau newydd a chyffrous i bobl ieuainc lleol ac mae’n helpu i ddatblygu nifer fawr o fyfyrwyr i fod yn arweinwyr a hyfforddwyr chwaraeon.
Dyfarnwyd y wobr chwarae teg i Ysgol Gyfun Ogwr ac fe’i cyflwynwyd gan syrffiwr proffesiynol Billabong, Max Tucker. Meddai Joanne Delve, y cydlynydd chwaraeon yn Ogwr,
"Mae ein plant wedi cael amser ffantastig ac wedi mwynhau cymysgu gyda phobl ieuainc o ysgolion eraill. Mae’n grêt ein bod wedi gallu gwrando ar eu safbwyntiau a chynnig pethau newydd a chyffrous iddynt eu gwneud".
Enillwyr y gystadleuaeth oedd Ysgol Gyfun Bryntirion ond roedd pawb yn teimlo’n llwyddiannus, diolch i’r gefnogaeth a’r hyfforddiant a ddarparwyd gan Academi Syrffio Simon Tucker a Chlwb Syrffio B. C. Mae trefnyddion yr achlysur yn ddiolchgar i’r noddwyr, ‘Double Overhead’, a ddarparodd y gwobrau ar gyfer y cystadleuwyr a hefyd Ffederasiwn Syrffio Cymru.
Meddai Andrew Thomas, Rheolwr Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol BCBC,
"Mae’r rhaglen ddatblygu syrffio wedi bod yn llwyddiant ysgubol a byddwn yn gweithio gyda’r Cyngor Chwaraeon er mwyn parhau â’r rhaglen y flwyddyn nesaf. Mae’r cydlynwyr chwaraeon ysgol wedi gweithio’n eithriadol galed er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd ac rwy’n falch tu hwnt bod ein pobl ieuainc wedi ymateb mor dda."