CYNGOR CHWARAEON CYMRU YN HYRWYDDO YSGOLION AR AMSER GWEITHREDU
4 Medi 2009
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru heddiw’n lansio ymgyrch yn cymeradwyo defnydd ehangach o gyfleusterau chwaraeon ysgol.
Gan ymateb i her cynyddu lefelau gweithgaredd corfforol a ffitrwydd y genedl, mewn sefyllfa o bwysau ariannol cynyddol, mae ysgolion ar draws Cymru wedi gweithredu i agor eu drysau i gymunedau ar fin-nos, penwythnosau ac yn ystod y gwyliau.
Yn ymrwymiad allweddol yn Cymru’n Un, mae’r Cyngor Chwaraeon yn gweithio gydag awdurdodau lleol i hybu darpariaeth leol o chwaraeon a gweithgaredd corfforol i bawb.
Croesewir y gweithredu hefyd fel mesur i helpu ymladd yn erbyn problem gynyddol gordewdra.
- Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif y bydd 2.3 biliwn o oedolion dros eu pwysau ar y blaned erbyn 2015
- Roedd maint gwasg merched ar gyfartaledd yn 1951 yn 70cm (27.5 modfedd). Dywedodd arolwg gan SizeuK yn 2004 fod hyn wedi cynyddu i 86cm (34 modfedd)
- Amcangyfrifir fod cost trin gordewdra a’i ganlyniadau rhwng £990 miliwn a £1.2 biliwn *
Mae’r Cyngor Chwaraeon yn awyddus i roi sylw i rai sy’n gwneud cyfraniad sylweddol a gall gynghori ysgolion eraill sy’n dymuno dilyn eu hesiampl.
Mae Ysgol Gymunedol Sirol y Porth yn Rhondda Cynon Taf yn enghraifft ardderchog. Mae’r ysgol yn ferw o weithgaredd fel canlyniad i’w rhaglen gwricwlaidd E3+ a ddisgrifiwyd fel un gyffrous, cyfoethog ac ymestynnol. Rhwng nosweithiau Llun a dyddiau Sadwrn mae’r ysgol yn darparu hyfforddiant Academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a gwersi nofio i blant mor ifanc â thair oed. Mae pêl-fasged a chriced hefyd ar gael ac mae Rhondda Paddlers yn ymarfer eu sgiliau canŵio yn y pwll. Ac mae’n stori debyg yn ystod y gwyliau. Gwyliwch y fideo
Dywedodd Steve Bowden, Pennaeth Ysgol Gymunedol Sirol Porth:
"Fe wnaethom ddechrau edrych ar agenda’r Ysgol Gymunedol a threulio oriau lawer yn trafod syniadau gyda llywodraethwyr, rhieni ac athrawon. Rydym mewn cyswllt gyda’r awdurdod lleol a phartneriaid eraill i wneud yn siŵr fod gweithgareddau ar gael bob amser ac nad ydym yn torri ar draws rhaglenni eraill o fewn y gymuned."
Dywedodd Huw Jones, Prif Weithredwr Cyngor Chwaraeon Cymru:
"Gwyddom efallai nad cynyddu’r defnydd o gyfleusterau ysgol yw’r ateb i bob awdurdod lleol ond lle mae cymunedau angen cyfleusterau lleol ar garreg eu drws megis clybiau gydag adrannau iau prysur, medrai fod yn help enfawr.
"Mae’r ymagwedd yma’n helpu pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, dod yn heini, ac mae hefyd yn dod â chymunedau at ei gilydd."
Ond wrth gwrs, nid yw agor ysgol y tu allan i oriau ysgol heb ffactor cost.
Ychwanegodd Bowden, "Nodwyd mai’r rhwystrau mwyaf i’r cynllun oedd cost cludiant a ffioedd mynediad. Roedd costau cludiant bob amser yn cael ei gyfrif bob tro yr oedd yr ysgol yn gwneud cais am gyllid – roeddem wedyn yn medru darparu bysus am ddim. Mae’r canolfannau hamdden agosaf dair milltir o’r ysgol i fyny neu i lawr y cwm felly mae’n gyfleuster defnyddiol ar garreg y drws y gymuned."
Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, sy’n gyfrifol am chwaraeon a gweithgarwch corfforol:
"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisiau cefnogi pobl Cymru i fod yn fwy egnïol oherwydd y manteision iechyd, cymdeithasol ac economaidd y mae ymarfer yn eu darparu. Gall agor cyfleusterau ysgolion i’r gymuned ehangach fod yn ffordd dda o ddarparu cyfleoedd gweithgarwch cyfleus i bobl, oherwydd mae ysgol wrth galon y gymuned leol yn aml. Mae hyn hefyd yn cysylltu ag ymgyrch fy nghydweithwraig, Jane Hutt, i gadw eu drysau ar agor am gyfnod hirach ar ddiwedd y diwrnod ysgol."
Meddai Dr Richard Lewis, Ysgrifennydd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru: "Mae’n hanfodol bod plant yn symud. Mae’r siwrnai i ac o’r ysgol yn fan cychwyn perffaith a bydd agor caeau chwarae ysgolion yn cynyddu nifer y mannau diogel sydd ar gael i blant chwarae tu allan i oriau ysgol. Mewn ardaloedd difreintiedig, mae gan lawer o rieni ormod o ofn gadael i’w plant fynd allan am fod y ffyrdd mor brysur ac mewn llawer o gymunedau ceir peryglon ychwanegol fel mannau nad ydynt yn ddiogel lle mae safleoedd chwarae’n llawn sbwriel. Mae’r ymgyrch hon yn gam i’r cyfeiriad iawn."
Meddai Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru:
"Mae plant a phobl ieuainc yn dweud wrthyf yn aml nad oes ganddynt unrhyw le i fynd na dim byd i’w wneud. Yn aml iawn, mae hyn yn peri i grwpiau o bobl ieuainc sefyll ar gornel y stryd; grwpiau sy’n gallu codi ofn ar aelodau eraill y gymuned. Ond gallai cyfleusterau lleol fel ysgolion a neuaddau cymunedol fod yn rhan o’r ateb drwy ddarparu i blant a phobl ieuainc rywle i fynd a rhywbeth i’w wneud. Hefyd, gallant fod yn rhan allweddol o greu cymunedau cynhwysol ac annog gwaith rhyng-genhedlaeth, a allai esgor ar newid positif mwy parhaus ar gyfer plant a phobl ieuainc.
"Mae’n galonogol gweld partneriaethau effeithiol ar waith, yn arbennig yn yr hinsawdd economaidd cyfredol. Rwy’n gobeithio y gall awdurdodau eraill o bob cwr o Gymru ddefnyddio’r ymgyrch ddiweddaraf hon i ganfod gwell ffyrdd o gydlynu ymdrechion a defnyddio adnoddau’n effeithiol. Mae ysgolion eisoes yn gwneud gwaith rhagorol yn ein cymunedau ar hyd a lled Cymru; weithiau byddaf yn meddwl nad ydym yn rhoi digon o gydnabyddiaeth iddynt. Mae’n rhaid i ni werthfawrogi eu cyfraniad a chefnogi eu datblygiad."