ATHLETWYR ELITAIDD YN CYRRAEDD CAERDYDD, CASNEWYDD AC ABERTAWE

1 Medi 2009

Bydd mwy na 1600 o athletwyr ieuainc elitaidd yn cyrraedd Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe yr wythnos hon er mwyn cymryd rhan yn yr achlysur aml-chwaraeon mwyaf yng Nghymru ers Gemau’r Ymerodraeth a’r Gymanwlad yn 1958!

Mae Gemau Ysgolion y DG yn achlysur aml-chwaraeon unigryw ar gyfer athletwyr elitaidd oedran ysgol ac maent yn ceisio efelychu naws cystadleuaeth fawr fel y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Bydd y Gemau’n dechrau gyda Seremoni Agoriadol AM DDIM ym Masn Roald Dahl (Y Basn Ofal) ym Mae Caerdydd ddydd Iau y 3ydd o Fedi (8.30 – 9.30pm). Bydd y Seremoni Agoriadol yn cynnwys gorymdaith o athletwyr, cyfweliadau gyda sêr y byd chwaraeon ac adloniant byw. Anogir y cyhoedd i fynychu’r achlysur oherwydd mae’n addo bod yn ddigwyddiad trawiadol iawn.

Mae’r gweithgarwch chwaraeon yn dechrau ddydd Gwener y 4ydd o Fedi 2009 pan fydd yr athletwyr yn cystadlu mewn 10 camp wahanol mewn lleoliadau ledled Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe a daw i ben ar ddydd Sul y 6ed o Fedi. Mae tocynnau ar gael o hyd, ewch i http://www.ukschoolgames.com/home am wybodaeth bellach os gwelwch yn dda.