Ysgolion lleol yn dysgu beth yw manteision dringo’n uwch
14 Awst 2009
Mae disgyblion o ddwy ysgol leol yng Nghaerdydd yn gweld beth yw manteision dringo drwy ymuno ag un o ganolfannau dringo dan do mwyaf y DG.
Mae Ysgol Uwchradd Mary Immaculate ac Ysgol Gyfun Glantafwedi creu partneriaeth gyda Chanolfan Ddringo Dan Do Boulders yng Nghaerdydd drwy gyfrwng rhaglen 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru, cynllun sy’n ceisio cael mwy o ddisgyblion ysgolion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.
Mae 25 o ddisgyblion rhwng 11 a 15 oed wedi cael eu cyflwyno i ddringo y tu allan i oriau ysgol arferol fel rhan o’r rhaglen sy’n darparu cymysgedd o gyfleoedd i’r disgyblion, i’w denu oddi ar y llinell ochr.
Drwy gynnal cyfres o gyrsiau Dysgu Dringo, sy’n dilyn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Dringo Dan Do (NICAS), nod Boulders yw nid yn unig hybu gweithgarwch corfforol ond hefyd annog datblygiad personol drwy gydnabod cyflawniadau unigol, meithrin hyder a gwella hunanhyder.
Meddai Aled Lewis, Swyddog 5x60: "Fel swyddogion 5x60, rydym yn chwilio’n gyson am ffyrdd blaengar a chyffrous o gael pobl ieuainc i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Mae Canolfan Ddringo Boulders yn cynnig cyfle i ieuenctid ddatblygu eu sgiliau dringo a chymdeithasol mewn amgylchedd hwyliog a heriol."
Yn ystod y cwrs, rhennir y disgyblion yn grwpiau o naw a thros bump sesiwn maent yn gweithio tuag at gwblhau tasgau adeiladu tîm ac ymarferion datrys problemau yn llwyddiannus. Hefyd mae’r disgyblion yn cael cyfle i fynychu clybiau ar ôl ysgol 5x60 a gynhelir ddwywaith yr wythnos er mwyn helpu i barhau i wella’r sgiliau maent yn eu dysgu.
Fel yr eglurodd Rob Lawrence, cyfarwyddwr rheoli Boulders: "Gall dringo fod yn fuddiol nid yn unig fel dull o ymarfer ond hefyd fel arf datblygu ar gyfer pobl ieuainc. Gall dringo fod yn heriol yn gorfforol ac yn feddyliol, fodd bynnag, wrth gyrraedd y brig, gall roi llawer o foddhad. Drwy ddringo, gall ieuenctid wella nid yn unig eu cryfder a’u stamina ond hefyd eu sgiliau cymdeithasol, eu hymroddiad a’u ffydd ynddynt hwy eu hunain ac mewn pobl eraill."
Meddai Aled wedyn: "Mae’r cwrs Dysgu Dringo wedi ein galluogi i weithredu amcanion a nodau strategol er mwyn annog plant i weithio tuag at dargedau ac anelu’n uwch. Yn ogystal â chynnig cyfle i ddisgyblion brofi nifer o wahanol weithgareddau y tu allan i amgylchedd yr ysgol, mae dringo hefyd wedi addysgu’r ieuenctid am gyfrifoldeb ac am bwysigrwydd meithrin ffydd ymhlith cyfoedion drwy gyfrwng gwaith tîm."
Diwedd