LLWYDDIANT BOCCIA YNG NGORNEST RYNGWLADOL AGORED SWYDD CAER

28 Gorff 2009

Bu sgwad o athletwyr Academi ac athletwyr yn datblygu’n cystadlu dros Gymru ym Mhencampwriaethau Boccia Rhyngwladol Swydd Caer yn ystod y penwythnos hwn (Gorffennaf 25ain a 26ain) yng Nghanolfan Robin Park, Wigan. Yno roeddent yn cystadlu’n erbyn enillwyr medalau aur Paralympaidd a chwaraewyr mewn safleoedd nodedig yn rhyngwladol. Daethant adref ar ben eu digon gyda medal Arian a 4ydd safle yn y gystadleuaeth BC3 a chafwyd perfformiadau eraill nodedig iawn gan y sgwad hefyd.

Yn ystod y gystadleuaeth ddeuddydd, bu’r Tîm BC1/BC2, a oedd yn cynnwys Steve Evans (Crumlin), Harri Jenkins (Castell-nedd) ac Andrew Williams (Yr Wyddgrug), 2 dîm BC3 a oedd yn cynnwys Jacob Thomas (Penfro), Gareth Stafford (Wrecsam) a Thomas Ciaburro (Pen-y-bont ar Ogwr) mewn un tîm tra oedd James Bailey (Caerdydd) a Karl Parrish (Chepstow) yn y llall – a phâr BC4 pair - Tomas Martin (Caerdydd) a Jamie Gordon (Pontypridd) – yn brwydro’n galed yn erbyn goreuon y gamp.

Bu’r Pâr BC3, sef Thomas, Stafford a Ciaburro, yn brwydro drwy gymalau grŵp anodd iawn i sicrhau lle yn y rownd gyn-derfynol, gan gyfarfod yno â’r pâr arall o Gymru, Bailey a Parrish. Mewn gêm lawn tyndra, brwydrodd Thomas, Stafford a Ciaburro drwodd i’r rownd derfynol tra bu Bailey a Parrish yn brwydro yn y gemau ail gyfle am y 3ydd / 4ydd safle.

Yn y rownd derfynol, roedd Thomas, Stafford a Ciaburro yn erbyn pâr o Brydain Fawr, Ce Turk a Liam Beresford. Roeddent wedi cyfarfod eisoes yn y cymalau grŵp lle roedd PF wedi ennill 5 – 2. Roedd y rownd derfynol yn gêm dynnach, a dim ond yn y diwedd un y cafodd ei phenderfynu. Fe allai fod wedi mynd unrhyw ffordd, ond PF ddaeth i’r brig yn y diwedd gan ennill o 4 – 2.

Yng ngemau ail gyfle’r 3ydd / 4ydd safle, bu Bailey a Parrish yn brwydro’n galed yn erbyn y pâr o Loegr ond colli o 3 – 1 fu eu hanes yn y diwedd, gan ddod yn 4ydd.

Uchafbwynt arall yn ystod y penwythnos oedd y Tîm BC1/BC2 a oedd yn erbyn enillwyr medalau aur Paralympaidd o Brydain Fawr. Gwthiodd y sgwad ifanc, a oedd yn cynnwys Evans, Jenkins a Williams, PF bob cam o’r ffordd nes bod raid cael pwynt penderfynu wedi i’r ornest orffen yn 3 – 3. Talodd profiad PF ar ei ganfed iddynt yn y pwynt penderfynu ac fe wnaethant ennill o un pwynt.

Ar y diwedd, daeth Cymru’n gydradd ail gyda’r Alban yng Nghystadleuaeth y Gwledydd Cartref ac mae’r sgwad yn edrych ymlaen yn awr at Gemau Cenedlaethol PF fis Hydref.

Cefnogwyd y tîm gan raglen yr Academi, a noddir gan Ace Feet in Motion ac a gefnogir gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Nod y rhaglen hon yw datblygu athletwyr ieuainc talentog i fod yn athletwyr o Safon Byd, fel maent yn dymuno. Eisoes mae’r Academi wedi profi llwyddiant gyda 9 allan o’r 15 athletwr newydd o Gymru a oedd yn Nhîm PF yng Ngemau Paralympaidd Beijing 2008 wedi dod drwy’r rhaglen hon.