Y Ferch Fwyaf Lwcus yng Nghymru!

27 Gorff 2009

Cefnogwraig rygbi ifanc o Sir Benfro yw’r enillydd lwcus diweddaraf i dderbyn gwobr chwaraeon gan raglen Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru.

Mae’r disgybl o Ysgol Brynconin, Rhiannon Haffield, wedi trechu mwy na 150 o gystadleuwyr eraill i fod yn berchennog balch ar grys rygbi Cymru – wedi’i lofnodi gan sgwad y Chwe Gwlad a’r enwau mwyaf yn y byd rygbi yng Nghymru.

Logiodd Rhiannon i mewn i wefan Campau’r Ddraig a llwyddodd i enwi’n gywir Shane Williams fel Chwaraewr y Flwyddyn cyfredol y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (BRRh), gan ennill gwobr cwbl unigryw.

Mae sêr y byd rygbi, yn cynnwys Shane Williams, Gavin Henson a James Hook, i gyd wedi dangos eu cefnogaeth i Gampau’r Ddraig, sef rhaglen gan Gyngor Chwaraeon Cymru i gael plant yn ysgolion cynradd Cymru i fwynhau chwaraeon y tu allan i oriau ysgol.

Ewch i www.campaudraig.co.uk am wybodaeth bellach ac i weld beth yw’r gystadleuaeth ddiweddaraf.