Y DIRPRWY BRIF WEINIDOG YN GALW DRAW I GANOLFAN GOLFF CLAYS

3 Gorff 2009

Fel rhan o’r 24 digwydd i dynnu sylw at y 24 mis ers sefydlu Llywodraeth Cymru’n Un, galwodd Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog, draw i Ganolfan Golff lwyddiannus Clays yn Wrecsam i gwrdd â phlant a phobl ifanc sydd wedi bod yn dilyn sesiynau hyfforddi golff yno.

Golf07Mae’r sesiynau hyfforddi yn rhan o raglenni gweithgarwch corfforol Campau’r Ddraig a 5x60 gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Caiff y cynllun 5x60 ei anelu at bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd a’i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r enw 5x60 yn cyfeirio at y 5 sesiwn o 60 munud o weithgarwch corfforol a argymhellir i blant a phobl ifanc bob wythnos.

Meddai Ieuan Wyn Jones: "Un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru’n Un yw parhau i gefnogi cynlluniau gweithgarwch corfforol mewn ysgolion. Mae’r cynllun 5x60 wedi rhoi cyfleoedd rhagorol i bobl ifanc wneud gweithgarwch corfforol na chynigir drwy addysg gorfforol draddodiadol mewn ysgolion."

"Mae’n wych cael cwrdd â’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y sesiynau hyfforddi a rhai o’r bobl yma yng Nghanolfan Golff Clays, gan fod yr awdurdod lleol, Datblygu Golff Cymru a’r Cyngor Chwaraeon yn cyfrannu at y sesiynau. Gan fwrw golwg ar y Cwpan Ryder y flwyddyn nesaf, sy’n ategu un o ymrwymiadau eraill Cymru’n Un, pwy â ŵyr – efallai y bydd y sesiynau hyfforddi hyn yn dod o hyd i’r Ian Woosnam neu’r Becky Brewerton nesaf!"