Aberaeron ar Frig y Dosbarth

3 Gorff 2009

Bydd Ysgol Gyfun Aberaeron yn derbyn ei hail wobr mewn llai na phedwar mis am ei hymdrechion i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol.

Mae Ysgol Gyfun Aberaeron wedi cael ei henwi’n Ysgol y Mis 5x60 ar gyfer mis Gorffennaf wedi derbyn gwobr Swyddog y Mis 5x60 ym mis Ebrill, sy’n argoeli’n dda ar gyfer dyfodol y dref lan môr.

Dyfarnwyd y teitl anrhydeddus gan Gyngor Chwaraeon Cymru, a seiliodd ei benderfyniad ar weithgareddau allgyrsiol yr ysgol.

Ers i’r Swyddog 5x60, Gemma Cutter, ddechrau gweithio yn yr ysgol ddwy flynedd yn ôl, mae mwy o blant wedi bod yn jeifio a neidio ar y llawr dawnsio, ac yn osgoi ac ergydio ar y cyrtiau.

Meddai Cutter, sy’n 23 oed, "Y chwaraeon mwyaf poblogaidd yw’r rhai unigol fel tenis bwrdd, tenis a badminton. Mae gan y plant hynny sy’n rhy swil i gymryd rhan mewn chwaraeon tîm rywbeth iddyn nhw eu hunain yn awr.

"Mae llawer o chwaraeon wedi cael eu cyflwyno i’r ysgol drwy gyfrwng 5x60, yn cynnwys pêl osgoi, tenis bwrdd, pêl foli a dawnsio stryd i enwi dim ond rhai."

Mae Cutter wedi darbwyllo mwy na hanner y disgyblion i gamu oddi ar y llinellau ochr a chymryd rhan yn sesiynau 5x60. Diben y cynllun yw cael mwy o ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.

Meddai wedyn, "Mae’r amrywiaeth o chwaraeon wedi dal dychymyg y plant ac mae gan lawer ohonynt awgrymiadau a syniadau ar gyfer sesiynau yn y dyfodol, sy’n grêt i mi ac iddyn nhw.

"Mae nifer y plant sy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau 5x60 yn uchel am ei fod yn amgylchedd heb gystadleuaeth ynddo ac yn lle i gael llawer iawn o hwyl."

Meddai Courtney, Alysha a Lisa, disgyblion ym mlwyddyn saith yn Ysgol Gyfun Aberaeron:

"Heb 5x60, does gennym ni ddim byd i’w wneud nac unlle i fynd. Ein hoff chwaraeon yw Hwyl yn y Dŵr, Pêl Foli, Tenis Bwrdd a Dawnsio Hip Hop. Rydym yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod amser egwyl hefyd, mae Gemma yn grêt."

Meddai Tom Evans, disgybl arall ym mlwyddyn saith, "Mae 5x60 yn hwyl, mae’n eich cadw’n heini ac mae’n grêt cael chwarae gyda’ch ffrindiau a gwneud rhai newydd. Mae’n braf achos does dim rhaid i ni dalu na phoeni am gludiant."

Mae 5x60 wedi cael effaith aruthrol ar ysgolion Cymru gyda 98% o’r ysgolion prif ffrwd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yn awr.

Mae pob ysgol uwchradd yng Ngheredigion yn rhan o’r cynllun, sy’n golygu bod cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar hyd a lled y sir.

Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk i enwebu eu swyddog.