MEDRUSRWYDD MURRAY’N HUDO IEUENCTID AR Y CWRT

3 Gorff 2009

Mae medrusrwydd Murray’n cael dylanwad ar y genedl ac mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Pontyclun yn cael cyfle i fwynhau chwarae tenis gyda thwrnament Wimbledon iddyn nhw eu hunain.

Drwy gyfrwng rhaglen Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru – ymgyrch fwyaf Cymru i gael plant ysgolion cynradd i gymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol – mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn mwynhau bod yn egnïol a defnyddio eu hawr ginio i berffeithio eu serf.

Wedi wythnosau o ragrowndiau a pharatoi, daeth Wimbledon Cymraeg yr ysgol i ben yn gynharach yr wythnos hon (dydd Mercher 1af Gorffennaf) o flaen cynulleidfa enfawr o ddisgyblion, rhieni ac athrawon – a fwynhaodd hefyd, wrth gwrs, bleserau mefus a hufen!

Gwisgodd Jack Smyth a Jake May, dau fachgen un ar ddeg oed, eu dillad gwynion a chipio buddugoliaeth mewn gornest ddyblau derfynol agos yn erbyn eu cyd-ddisgyblion, Alexander Appleton a Georgia Davies, gan gael eu henwi’n ddetholion rhif un.

Cafodd y pencampwyr gychwyn anwadal gan golli eu gêm serfio gyntaf ac roeddent yn colli 2-0, ond dyma frwydro’n ôl ac ennill yr ornest o 7-5 a chipio’r tlws.

Mae ergydio a serfio wedi bod ar frig yr agenda ers dechrau tymor yr haf ac mae disgyblion o flynyddoedd tri i chwech wedi ildio eu hamser cinio er mwyn cymryd rhan yn y twrnament yma, ond nid dim ond tenis sydd wedi bod yn eu cadw’n brysur fel camp.

Drwy gyfrwng rhaglen Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru, mae plant 7-11 oed yr ysgol wedi bod yn rhoi cynnig hefyd ar y saith camp arall a gynigir – pêl droed, rygbi, golff, pêl rwyd, hoci, athletau a chriced a chawsant eu gwobrwyo’n ddiweddar yn y Gwobrau Chwaraeon i Ysgolion Egnïol.

Yn cipio’r wobr ar gyfer Cyfraniad Campau’r Ddraig at Chwaraeon Allgyrsiol yn Aberdâr ar y 24ain o Fehefin, cafodd ymdrechion yr ysgol i ddenu plant oddi ar y llinellau ochr eu cydnabod. Hefyd, maent wedi cael cynnig sgïo, marchogaeth ceffylau a sboncen i’w disgyblion.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Wrth i Wimbledon dynnu at ei derfyn, rydym yn gobeithio y bydd bechgyn a merched ledled Cymru’n cael eu hysbrydoli ac yn dechrau manteisio ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael i gamu ar y cwrt. Mae Campau’r Ddraig yn rhagori ar yr holl ddisgwyliadau ac mae’n bleser cael dweud bod cymaint o ysgolion a chlybiau’n darparu sesiynau chwaraeon hwyliog a diogel i blant ysgolion cynradd."