CHWARAEWYR BADMINTON YNYS MÔN YN CAEL CYFLEOEDD NEWYDD
4 Rhag 2008
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi dangos cefnogaeth i glwb badminton ar gyfer pobl ieuainc ar Ynys Môn, gan gynnig cyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer hyfforddiant ac offer.
Mae grant gwerth £800 gan y Gist Gymunedol wedi bod o gymorth i Glwb Badminton Iau Biwmares anfon gwirfoddolwyr ar gyrsiau hyfforddi a chymorth cyntaf, yn ogystal â phrynu offer newydd fel rhwydi, racedi a gwenoliaid.
Mae’r clwb, sy’n aelod o Undeb Badminton Cymru ac sy’n cyfarfod yng Nghanolfan Biwmares, wedi cael y pleser o dderbyn aelodau newydd ers rhoi hwb i’r darpariaethau hyfforddi. Mae’r niferoedd wedi cynyddu gymaint fel bod sesiwn hyfforddi wythnosol ychwanegol wedi’i gyflwyno i roi mwy o amser hyfforddi i aelodau mwy newydd y clwb.
Meddai Trysorydd Clwb Badminton Iau Biwmares, Brian Kirkham,
"Rydym eisoes wedi gwario cryn dipyn o’r grant. Mae dau o’n myfyrwyr wedi mynychu cwrs hyfforddi ac maent wedi dechrau helpu yn y clwb. Rydym wedi sefydlu clwb arall ar ddyddiau Gwener oherwydd mae gennym 30 o aelodau newydd nawr, ac rydym wedi archebu offer newydd, fel racedi a gwenoliaid.
"Ni fyddem wedi gallu gwneud yr hyn rydym yn ei wneud yn awr heb gyllid y Gist Gymunedol. Does gennym ni ddim arian a dyna pam ein bod wedi gwneud cais am y grant, er mwyn gallu dal ati."
Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Meddair Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Ynys Môn. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.
""Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Ynys Môn i fod yn fwy egnïol yn amlach."
O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.