CYLLID GAN Y CYNGOR CHWARAEON YN HWB I GYMNASTEG YN WRECSAM
4 Rhag 2008
Bydd gymnastwyr mewn clwb gymnasteg yn Wrecsam yn elwa o well safonau hyfforddi, diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol gan Gyngor Chwaraeon Cymru.
Bydd grant gwerth £1,000 gan y Gist Gymunedol o gymorth i Abbey Road Acro anfon sawl gwirfoddolwr ar gyrsiau hyfforddi gymnasteg acrobatig.
Ar hyn o bryd, mae’r clwb, sy’n aelod o Gymnasteg Prydain ac sy’n cyfarfod ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, yn cynnal wyth sesiwn hyfforddi yr wythnos ar gyfer ei 160 o aelodau iau, gyda phob un ohonynt dan 16 oed. Maent eisiau treblu nifer y sesiynau hyfforddi i 24 yr wythnos ac felly bydd angen pedwar hyfforddwr ar gyfer pob sesiwn. Bydd raid i fwy o wirfoddolwyr ennill cymwysterau hyfforddi felly.
Meddai Jackie Goode o Abbey Road Acro, "Ein nod ar hyn o bryd yw datblygu’r hyfforddi a chodi safonau’r hyfforddi ar gyfer ein cyfranogwyr i gyd. Rydym eisiau dal ati i symud yr hyfforddwyr i fyny’r lefelau a recriwtio mwy o hyfforddwyr cynorthwyol addas, fel bod y gymnastwyr i gyd yn y clwb yn cael cyfle i wneud cynnydd."
Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Meddair Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Wrecsam. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.
""Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Wrecsam i fod yn fwy egnïol yn amlach."
O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.