PÊL DROED PLANT YN FYW AC YN IACH AR YNYS MÔN

4 Rhag 2008

Mae pêl droed plant yn fyw ac yn iach ar Ynys Môn wedi i Gyngor Chwaraeon Cymru gyfrannu mwy na £3,800 o gyllid y Loteri Genedlaethol at dimau ledled yr ynys yr hydref hwn.

Rhannodd panel Cist Gymunedol Ynys Môn y cyllid rhwng nifer o glybiau drwy gyfrwng menter y Gist Gymunedol a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Bydd plant ifanc sy’n ceisio efelychu sêr fel Aaron Ramsey a Gareth Bale yn elwa o git ac offer newydd, yn ogystal â safonau hyfforddi uwch, gyda mwy o hyfforddwyr yn ennill cymwysterau pêl droed.

Derbyniodd y clybiau pêl droed iau a ganlyn gyllid gan y Gist Gymunedol:

CPD Iau Glantraeth

Derbyniodd Clwb Iau Glantraeth £949 i helpu gyda ffurfio tîm dan 12 oed – grŵp oedran a oedd wedi cael ei esgeuluso yn y gorffennol yn eu barn hwy. Mae gan y clwb, sydd wedi’i leoli yn Ysgol Gymunedol Bodorgan, strwythur iau helaeth, gyda chynrychiolaeth dan 9, 11, 14 a 18 oed. Bydd cyllid y Gist Gymunedol yn cyllido, ymhlith pethau eraill: cyrsiau cymorth cyntaf, lles ac arwain yn ogystal â chit newydd a pheli.

CPD Iau Bae Trearddur

Cafodd Clwb Iau Bae Trearddur £555 i gryfhau ei strwythur hyfforddi. Mae’r clwb, sy’n cynnal ei hyfforddiant ar Gae Pêl Droed Mill Bank yng Nghaergybi, yn hyfforddi 60 o fechgyn yn ystod y pedwar sesiwn hyfforddi wythnosol. Bydd cyllid y Gist Gymunedol yn mynd tuag at logi caeau a chyllido pum gwirfoddolwr i fynd ar hyfforddiant lles a dau arall i ennill cymwysterau cymorth cyntaf.

CPD Iau Llangoed

Derbyniodd Clwb Iau Llangoed £439 er mwyn darparu hyfforddiant dan do i’r tîm dan 14 ac i gryfhau’r ddarpariaeth hyfforddi. Drwy symud dan do i Ganolfan Hamdden Biwmares, maent yn gobeithio denu mwy o chwaraewyr yn ystod misoedd y gaeaf. Bydd cyllid y Gist Gymunedol yn mynd tuag at offer, fel peli a chonau, yn ogystal â chyrsiau arwain a chymorth cyntaf.

CPD Iau Llanfairpwll

Cafodd Clwb Iau Llanfairpwll £941 i annog plant lleol i gymryd rhan mewn achlysuron pêl droed trefnus ac i gadw’n heini drwy fod yn egnïol. Hefyd maent eisiau gwella eu safonau hyfforddi a phrynu offer newydd ar gyfer eu tîm newydd dan 7 oed. Bydd cyllid y Gist Gymunedol yn mynd tuag at gyrsiau arwain, lles a chymorth cyntaf yn ogystal ag offer fel bibiau a pheli.

CPD Iau Llewpartiaid Llandegfan

Mae’r Llewpartiaid wedi derbyn £980 i ailstrwythuro eu clwb, a fydd yn cynnwys carfan newydd dan 12 oed, mewn ymgais i ddenu’r gymuned at ei gilydd ac annog y plant lleol i ryngweithio gydag ieuenctid eraill ar Ynys Môn drwy gyfrwng strwythur y gynghrair leol. Ar hyn o bryd, mae gan y clwb 46 o fechgyn yn hyfforddi’n rheolaidd ond mae’n gobeithio y gall ddenu 20 o blant ychwanegol gyda’r hyfforddwyr ychwanegol sydd am ymuno â’r clwb. Bydd cyllid y Gist Gymunedol yn mynd tuag at gyrsiau arwain, lles a chymorth cyntaf yn ogystal ag at brynu offer newydd a llogi cyfleusterau.

Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Ynys Môn. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.

"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Ynys Môn i fod yn fwy egnïol yn amlach."

O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.

Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.

Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.