CLWB RYGBI O GAERDYDD YN CIPIO ARIAN GAN Y LOTERI GENEDLAETHOL
10 Gorff 2008
Mae clwb rygbi o Gaerdydd yn barod amdani, diolch i grant gan gynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru.
Yng Nghlwb Rygbi Hen Fechgyn Ysgol Uwchradd Caerdydd mae’r adran mini ac iau sy’n datblygu gyflymaf yn y ddinas. Ac mae wedi derbyn mwy na £900 o gyllid y Loteri Genedlaethol.
Nawr mae’r clwb yn gobeithio cyfrannu arian at gyrsiau hyfforddi ar gyfer ei hyfforddwyr, a fydd wedyn yn gallu cefnogi’r niferoedd cynyddol o blant sy’n dewis rhoi esgidiau rygbi am eu traed a chamu ar y cae.
Ceir cynlluniau ar droed i sefydlu timau i enethod dan 14 oed a than 17 oed. Drwy wella medrusrwydd yr hyfforddwyr, bydd y clwb hefyd yn gallu sicrhau rygbi diogel a hwyliog.
Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru nôl yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Gall sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 yn awr ar gyfer prosiect cymwys, dros gyfnod o 12 mis.
Mae rhychwant y cynllun wedi cael ei ehangu hefyd. Yn draddodiadol, arferid dyfarnu grantiau i glybiau a chyrff yn ymwneud â chwaraeon. Bellach, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd am ddatblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys i dderbyn dyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly, tra bydd y clwb pêl droed lleol yn cael aelodau iau’r gymuned i fod yn egnïol, bydd cefnogi grŵp cerdded lleol yn annog mwy o oedolion i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae’n parhau i fod felly, ac yn hynod boblogaidd ledled Caerdydd. Bydd y cynnydd yn y cyllid, a rhychwant ehangach y cynllun, yn ei wneud yn llawer mwy effeithiol.
"Gan y panelau ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru mae’r cyllid ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau priodol. Rydym eisiau clywed am y syniadau a’r prosiectau difyr a fydd yn cael mwy o bobl yng Nghaerdydd i fod yn fwy egnïol yn amlach."
I ddileu unrhyw rwystrau ac i sefydlu eich prosiect, ffoniwch swyddfa ranbarthol Cyngor Chwaraeon Cymru yn eich ardal chi:
De Ddwyrain Cymru: 0845 045 0904
De Orllewin Cymru: 0845 045 0906
Gogledd Cymru: 0845 045 0908
Neu ewch i www.cyngor-chwaraeon-cymru.org.uk