SIR FYNWY’N CIPIO TEITL POLO DŴR
7 Gorff 2008
Mae plant Sir Fynwy’n dathlu wedi trechu tri thîm polo dŵr arall i ennill teitl anrhydeddus fel pencampwyr polo dŵr mini De Cymru.
Daeth mwy nag 80 o blant 12 oed ac iau, yn cynrychioli cynghreiriau polo dŵr mini o Ben-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy, Casnewydd a Chastell-Nedd Port Talbot, at ei gilydd i Bwll Nofio Aberdâr ddydd Sadwrn, Gorffennaf 5, wedi cyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth newydd ar ôl trechu eu cyfoedion yn rowndiau cyn-derfynol y De Ddwyrain a’r De Orllewin.
Wedi llwyddo i gynnig polo mini fel rhan o’r Fenter Nofio Am Ddim yn ystod gwyliau’r ysgol, sefydlwyd y gynghrair i blant ledled De Cymru yn 2007 a bellach mae’n ymestyn y tu hwnt i hyn gan ddarparu sesiynau yn ystod y tymor.
Dyfarnwyd cyllid ar gyfer y gynghrair gan Gronfa Wella Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru. Buddsoddwyd mwy na £7,000 er mwyn prynu offer newydd, i addysgu hyfforddwyr ac i ddatblygu clybiau polo dŵr mini ledled De Cymru, gan arwain at gael mwy na 300 o blant newydd yn hyfforddi ac yn cystadlu’n wythnosol.
Aeth y Gweinidog Chwaraeon, Rhodri Glyn Thomas AC, draw ar y diwrnod i ddangos ei gefnogaeth. Meddai, "Roeddwn wrth fy modd yn cael gwahoddiad i Rondda Cynon Taf y penwythnos diwethaf i weld sut mae cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru’n darparu mwy o gyfleoedd i blant ledled Cymru fod yn fwy egnïol mewn chwaraeon.
"Mae Cronfa Wella Nofio Am Ddim yn brawf o’n hymroddiad i wella safon y gweithgareddau a’r cyfleusterau a gynigir, a chreu mwy o gyfleoedd i bobl o bob oed a gallu gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol."
Meddai’r Hyfforddwr, Ian Parfitt: "Gweithiodd y plant i gyd yn eithriadol galed er mwyn cyrraedd y rownd derfynol ac rwyf ar ben fy nigon gyda’r canlyniad. Byddwn yn dal ati i ymarfer ac yn croesawu aelodau newydd i’r tîm".
Am wybodaeth bellach am gymryd rhan mewn polo dŵr mini neu weithgareddau eraill y Fenter Nofio Am Ddim, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol neu ewch i www.free-swimming-wales.org.uk.