DIRPRWY WEINIDOG YN CODI HWYL YM MHLAS MENAI

9 Mai 2008

Ymunodd y Dirprwy Weinidog â disgyblion o Ysgol Rhostryfan, a oedd yn hwylio dingi ar Afon Menai. Mae’r disgyblion, sy’n 10-11 oed, wedi bod yun derbyn hyfforddiant hwylio, caiacio a gwyntsyrffio yn ystod y misoedd diwethaf fel rhan o brosiect peilot Chwaraeon Dŵr mewn Ysgolion gan Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru.

Cyfarfu’r Gweinidog â Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru a Phlas Menai i edrych ar rôl cynlluniau hyfforddi galwedigaethol ar gyfer hyfforddwyr a swyddi morol eraill cysylltiedig â hamdden, yn ogystal â chyfleoedd i blant oed ysgol gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored er mwyn ennill cymaint o brofiad ag y bo modd.

Mae’r ymweliad yn dilyn cynhadledd ar ‘Chwaraeon Dŵr yn y Cwricwlwm’ a fynychwyd gan y Dirprwy Weinidog fis Rhagfyr diwethaf, wedi’i threfnu gan Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru. Roedd yn edrych ar botensial mwy o gyfleoedd gwaith lleol yn y sector morol a gweithgarwch awyr agored, a phwysigrwydd cynlluniau hyfforddi galwedigaethol, gweithgareddau chwaraeon dŵr ac addysg amgylcheddol i ddisgyblion yng nghwricwlwm ysgolion, i gefnogi gwaith yn lleol yn yr hirdymor.

Ymhlith y rhai a gyfarfu â’r Dirprwy Weinidog roedd yr hyfforddwyr dan hyfforddiant sy’n dilyn cyrsiau 6-mis ar hyn o bryd i feithrin eu sgiliau hyfforddi mewn gweithgareddau fel caiacio, hwylio, gyrru cychod pŵer a mynydda. Mae Arwyn Thomas o’r Groeslon a Dion Roberts o Ynys Môn ill dau’n raddedigion llwyddiannus wedi dilyn y cyrsiau hyn a bellach maent yn hyfforddi chwaraeon dŵr a gweithgareddau mynydd mewn canolfannau ledled Gogledd Cymru. Mae Arwyn Thomas bellach yn arbenigo ar yrru cychod pŵer a hyfforddiant dŵr cyflym ar gyfer grwpiau fel y gwasanaethau achub.

Mae Prentisiaeth Fodern mewn Peirianneg Morol drwy gyfrwng Coleg Meirion Dwyfor wedi bod o fudd i Gary Julio, 20 oed, o Gaernarfon, sy’n gweithio pedwar diwrnod yr wythnos ym Mhlas Menai ar hyn o bryd, yn hyfforddi i adeiladu a chynnal a chadw amrywiaeth eang o gaiacs, dingis, iotiau ac offer cychod pŵer a ddefnyddir gan filoedd o gyfranogwyr.

Ychwanegodd Stuart Gibson, Cydlynydd Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru Cyf.:

"Drwy gynnwys cyfleoedd am hamdden arfordirol, hamdden a gweithgareddau dysgu'n uniongyrchol yn y cwricwlwm prif lif, gellir dylanwadu'n bositif ar ffordd o fyw pobl ieuainc y rhanbarth, gan eu galluogi i fanteisio ar y diwydiannau hamdden morol a gwyddoniaeth gefnforol sy'n prysur ehangu ac sydd ar garreg eu drws."

Nid oes gan Reolwr Canolfan Plas Menai, Alan Williams, unrhyw amheuaeth ynghylch y cyfleoedd yn y diwydiant:

"I unrhyw un sydd eisiau gweithio yn yr awyr agored, mae ennill cymaint o brofiad ag y gallant yn allweddol. Mae’r cynlluniau hyfforddi galwedigaethol, y profiad gwaith a’r rhaglenni prentisiaeth yn hanfodol ar gyfer y cymwysterau proffesiynol a’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant heddiw. "

Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag Alan Williams ym Mhlas Menai ar 01248 670964 / alan.williams@scw.org.uk