SAFON NEWYDD AR GYFER AG MEWN YSGOLION YN CAEL SÊL BENDITH
19 Hyd 2007
Mae ysgolion Cymru sy’n cyrraedd safonau uchel wrth ddarparu cyfleoedd AG yn mynd i elwa yn awr o gymeradwyaeth arbennig, diolch i bartneriaeth newydd sbon rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru a’r Gymdeithas ar gyfer Addysg Gorfforol (afPE).
Mae ActiveMarc Cymru yn gynllun achredu newydd ar gyfer ysgolion a’i ddiben yw cynnig cyfle i ysgolion dderbyn cydnabyddiaeth am eu hymrwymiad i ddatblygu AG a chwaraeon ysgol o safon uchel ar gyfer hybu manteision gweithgarwch corfforol. Mae’r dyfarniadau’n agored i ysgolion cynradd ac uwchradd, ysgolion arbennig ac ysgolion annibynnol.

Bydd yr ysgolion a fydd yn ennill statws anrhydeddus ActiveMarc Cymru yn derbyn tystysgrif ac yn gallu arddangos logo ActiveMarc Cymru ar ddogfennau a gwefan yr ysgol am dair blynedd.
Meddai'r Gweinidog dros Addysg, Plant a Phobl Ieuainc, Jane Hutt:
"Mae iechyd a lles ein pobl ifanc yn allweddol. Drwy gyfrwng amrywiaeth o gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cynnwys Her Iechyd Cymru, rydym yn annog pobl o bob oed i fyw bywydau iachach. Rwy'n gobeithio y bydd ysgolion ledled Cymru'n ceisio ennill statws ActiveMarc Cymru ac y bydd ein holl ddisgyblion yn elwa o fanteision darpariaeth AG a chwaraeon safonol.
Bydd cynllun Campau’r Ddraig gan y Cyngor Chwaraeon, a gyllidir gan y Loteri, a mentrau 5x60 ac AG a Chwaraeon Ysgol (AGChY) Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn gwneud cyfraniad arwyddocaol bob un at y dyfarniadau.
Yn wir, mae pob un o’r cynlluniau hyn – a reolir gan y Cyngor Chwaraeon – wedi cael eu canmol ers cryn amser am y camau allweddol a gymerwyd wrth gyflwyno AG yn ysgolion Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling, yn croesawu’r cynllun newydd a’r cyfleoedd a geir yn ei sgil:
"Ni ddylid tanamcangyfrif gwerth chwaraeon ysgol. Yn ogystal â chyfrannu at ragoriaeth academaidd ac annog cyfranogiad mewn chwaraeon, mae’n chwarae rhan allweddol mewn creu Cymru iachach.
"Mae dyfarniad ActiveMarc Cymru’n cymeradwyo ymroddiad pob ysgol yng Nghymru i sicrhau bod addysg gorfforol yn cael lle haeddiannol mewn cwricwlwm cytbwys sy’n ceisio datblygu’r plentyn cyfan. Mae dyfarniadau fel hyn yn darparu llinyn mesur ar gyfer rhagoriaeth y gall pob ysgol anelu ato er budd eu disgyblion i gyd.
"Gwaith ActiveMarc yw helpu a galluogi ysgolion i ymroi i ddatblygu eu darpariaeth o weithgarwch corfforol. Rydym eisiau gwneud yn siwr bod ieuenctid yn cael y cychwyn gorau posibl mewn chwaraeon."
Pan mae ysgol yn gwneud cais am ddyfarniad ActiveMarc Cymru, mae’n ymroi i broses o hunanwerthuso lle mae cryfderau a meysydd datblygu’n cael eu canfod. Mae’r ffurflen gais yn unol â Hunanarolwg Ysgolion Estyn ac yn cynnwys addysgu a dysgu’r cwricwlwm, Dysgu Tu Allan i Oriau Ysgol (OSHL) a blaengaredd a ddangosir i feithrin cysylltiadau cymunedol.
Meddai Cadeirydd afPE, Steve Kibble:
"Rwy’n hynod falch o weld lansiad ActiveMarc Cymru a’r cydweithrediad agos rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru a’n haelodau yng Nghymru. Mae afPE yn falch o fod wedi gallu gwneud cyfraniad ariannol ac fe hoffai ddymuno bob llwyddiant i’w gydweithwyr yng Nghymru gyda’r fenter hon.
"Rwy’n siwr y bydd ActiveMarc Cymru’n gwneud cyfraniad arwyddocaol i godi proffil AG, gweithgarwch corfforol dyddiol a chwaraeon ysgol er budd pobl ieuainc Cymru."
Gall ysgolion gyflwyno cais ar ffurflen gais ar-lein drwy gyfrwng adran ActiveMarc Cymru o wefan Cyngor Chwaraeon Cymru, www.cyngor-chwaraeon-cymru.org.uk. Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw diwedd mis Chwefror 2008.
Cysylltwch â Lynette Evans yng Nghyngor Chwaraeon Cymru ar 029 2033 8273 / lynette.evans@scw.org.uk
Joanne Warlow, Uwch-Swyddog Addysg y Wasg yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar 02920 898556 / joanna.warlow@wales.gsi.gov.uk
NODIADAU I OLYGYDDION
- Sefydlwyd y Prosiect Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (AGChY) yn 2000 o ganlyniad i adroddiad tasglu a oedd yn amlinellu’r camau allweddol yr oedd angen eu cymryd i godi safonau mewn AG.
- Rheolir y prosiect AGChY gan Gyngor Chwaraeon Cymru ar ran Cynulliad Cymru. Cefnogir CChC gan dîm gweithredu cenedlaethol yn cynnwys arbenigwyr mewn AG o bob cwr o Gymru. Mae’r arbenigwyr hyn yn ymgynghorwyr hefyd, yn cefnogi datblygiad y prosiectau arbenigol a thîm o hyfforddwyr cenedlaethol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno rhaglenni hyfforddi o safon uchel fel rhan o’r prosiect.