HYFFORDDWYR NOFIO’N CIPIO’R GWOBRAU MAWR YN NYFARNIADAU HYFFORDDI CYMRU

18 Tach 2004

Dave Haller with Gregor Tait and David DaviesNofio ddaeth i’r brig heddiw yng Ngwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn 2004 Cyngor Chwaraeon Cymru.

Cafodd Dave Haller – Prif Hyfforddwr Clwb Nofio Dinas Caerdydd – ei goroni’n Hyfforddwr y Flwyddyn a derbyniodd Billy Pye – hyfforddwr cenedlaethol Cymru ym myd nofio’r anabl – wobr am gyflawniad eithriadol mewn seremoni yn Athrofa Chwaraeon Cymru, Caerdydd.

Haller yw’r dyn sy’n gyfrifol am feithrin talent David Davies, a nofiodd ras orau ei fywyd yr haf hwn i gipio medal efydd Olympaidd yn y dull rhydd 1500m.

Meddai Davies, "Roedd y medal yn perthyn cymaint i Dave Haller ag yr oedd i mi. Mae o efo fi ym mhob sesiwn ymarfer, gan godi am 5am i fod wrth ymyl y pwll. Mae o’n wych am fy nghymell i."

"Rydym yn lwcus o’i gael o yma yng Nghymru – mae ei brofiad yn ddigyffelyb, ei wybodaeth yn ardderchog ac, yn bwysicach fyth, mae’n hyfforddwr sy’n deall ac yn berson arbennig iawn."

Ac ymhlith y rhai sydd wedi bod dan adain Haller mae Mark Foster a’r pencampwyr Olympaidd, David Wilkie a Duncan Goodhew.

Yn ddiweddar, mae pencadlys Haller wedi denu cyfaill Olympaidd i Davies, Gregor Tait, bob cam o Gaeredin.


Mae Tait wedi adleoli o brifddinas yr Alban i Gaerdydd i weithio gyda Haller gan fod ei gyn-hyfforddwr, Tim Jones, wedi ymddeol o hyfforddi o safon y byd. Yn safle rhif pump yn y byd ac wedi gorffen yn chweched yn rownd derfynol Gemau Olympaidd Athen, meddai Tait:

"Mae Dave Haller yn sefyll ben ac ysgwydd uwch law’r gweddill."

Derbyniodd Billy Pye – sy’n gweithio ym Mhwll Cenedlaethol Cymru, Abertawe – wobr arbennig am gyflawniad eithriadol. Roedd yn un o ddim ond dau hyfforddwr i anfon pump o nofwyr i dîm Paralympaidd PF. Rhyngddynt, roeddent yn ddigon medrus i gipio 11 medal.

Penodwyd Pye gan Nofio Prydain fel Hyfforddwr Perfformiad Uchel 18 mis yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r cyn-löwr wedi codi’r Ganolfan Berfformiad Uchel ar gyfer Nofio’r Anabl i fod yn un o’r goreuon ym Mhrydain. Symudodd o’r pwll glo i’r pwll nofio pan gaewyd y pyllau glo yn 1986. Billy Pye

Dechreuodd hyfforddi yn ei glwb lleol ac yna derbyniodd swydd lawn amser gyda Sgwad Nofio Pen-y-bont ar Ogwr, gan adleoli i Bwll Cenedlaethol Cymru, Abertawe, wedyn.

Enillodd David Roberts bedwar medal aur ac un arian yn Athen. Roedd ef yn y seremoni heddiw ac meddai:

"Mae’n hyfforddwr unigryw. Rydym yn deall ein gilydd ac yn gweithio’n dda iawn gyda’n gilydd. ‘Fyddwn i ddim wedi ennill y medalau Paralympaidd hebddo. Mae’n gwbl amhrisiadwy. Rydym yn ffodus iawn o’i gael."


· Hyfforddwraig y Flwyddyn – Hyfforddwraig hoci dan 21 Merched

Cymru, Pam Richards (Wrecsam)

· Hyfforddwr Gwirfoddol y Flwyddyn – Bill Darwin o Glwb Pêl Droed

Genethod Bae Cinmel

· Athro-Hyfforddwr y Flwyddyn – Sarah Thomas o Ysgol Gynradd Hywel

Dda (Caerdydd)

· Hyfforddwr y Flwyddyn Pobl Anabl y Byd Chwaraeon – Jean Jones o Glwb Gymnasteg Hwlffordd

Meddai’r Gweinidog Chwaraeon, Alun Pugh, a gyflwynodd y gwobrau heddiw:

"Mae hyfforddwyr da’n ysbrydoli, yn cymell ac yn annog ac mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod gwaith yr hyfforddwyr ar bob lefel. Mae Dave Haller a Billy Pye wedi cyfrannu’n helaeth iawn at flwyddyn aruthrol o dda i chwaraeon Cymru. Maent ill dau wedi bod yn allweddol yn llwyddiant y byd nofio.

"Mae hefyd yn hynod bwysig ein bod yn sylweddoli ac yn gweld gwerth yng nghyfraniad yr athrawon ysgol a’r gwirfoddolwyr sy’n hyfforddi, oherwydd yn aml iawn dyma gyswllt cyntaf unigolyn â hyfforddwr chwaraeon."