Cynhaliaeth Gwyddoniaeth Chwaraeon
Mae Cefnogaeth Wyddoniaeth Chwaraeon yn cynnwys cymorth a chyngor gan lu o ddisgyblaethau gwyddonol (yn cynnwys dadansoddi perfformiad, maeth, ffisioleg, seicoleg a chryfder a siapio), gyda phob un yn canolbwyntio ar helpu i wella perfformiad yr athletwr elitaidd.
Isod ceir amlinelliad o bob disgyblaeth:
Ffisioleg:
Mae cefnogaeth gwyddoniaeth chwaraeon ffisiolegol yn cynnwys strategaethau i sicrhau perfformiad optimwm ar adegau penodol yn ystod eich cylch hyfforddi. Gellir cynnal profion ffitrwydd naill ai yn y labordy gwyddoniaeth chwaraeon neu yn y maes, yn unol ag anghenion y gamp. Gellir rhagnodi ymarfer drwy gydweithredu gyda chi a’ch hyfforddwr, a monitro ymateb eich corff i hyfforddiant a chystadlaethau’n rheolaidd. Mae monitro’n cynnwys adborth gwrthrychol gennych chi a monitro amrywiadau o dderbyn samplau gwaed ac iwrin yn y Labordy Gwyddoniaeth Chwaraeon. Defnyddir cyfleusterau eraill i geisio gwella gallu’r corff i ymdopi â hinsawdd anodd, altitiwd a theithio ymhell.
Seicoleg:
Mae cefnogaeth gwyddoniaeth chwaraeon seicolegol yn ymwneud ag ystyried y ffactorau meddyliol sy’n gallu effeithio ar berfformiad. Gall Seicolegwyr Chwaraeon helpu i wella perfformiad wrth ymarfer ac wrth gystadlu drwy ddatblygu’r canlynol:
- Canolbwyntio
- Cymhelliant
- Hyder
- Y gallu i ymdopi
- Rheolaeth emosiynol
Y sgiliau a ddysgir fel rheol yw:
- Ymlacio
- Delweddaeth
- Paratoi ar gyfer cystadlu
- Adolygu hyfforddiant a pherfformiad
- Gosod nodau
- Y gallu i ganolbwyntio
- Rheoli hunan-siarad
Ar ben hynny, gall Seicolegwyr Chwaraeon helpu gyda gwneud penderfyniadau, newid gyrfa a chyfathrebu. Mae Seicolegwyr Chwaraeon yn gweithio mewn ffyrdd amrywiol er mwyn datblygu’r sgiliau uchod. Mae’r rhain yn cynnwys addysg gweithdy, ymgynghoriadau unigol, gweithio gyda hyfforddwyr ac arsylwi hyfforddiant a chystadlu.
Biomecaneg:
Mae biomecaneg yn cynnwys dadansoddi symudiadau a thechnegau dynol. O ran gwella perfformiad, dylech ddadansoddi eich techneg wrth hyfforddi a chystadlu oherwydd gall eich helpu i ganfod gwendidau, atal anafiadau a gwella effeithlonrwydd mewn symudiadau chwaraeon-benodol. Ceir cysylltiad agos rhwng biomecaneg a gwasanaethau cefnogi eraill fel Dadansoddi Perfformiad, Meddygaeth Chwaraeon a Chryfder a Siapio.
Cryfder a Siapio:
Mae dau brif ffocws yn perthyn i gryfder a siapio.
- Gwella Perfformiad – drwy ddatblygu cryfder y cyhyrau, dygnedd cryfder, pwer (cyflymdra ac ystwythder) a symudiadau chwaraeon-benodol (swyddogaethol).
- Atal Anafiadau – drwy gyfrwng asesiadau seiliedig ar hyfforddiant ystum, sefydlogrwydd, cryfder craidd a symudiadau penodol (cysylltiedig â chwaraeon).
Gellir gweithredu’r ddau ffactor yma ar y cyd â’ch hyfforddwr neu â staff Gwyddoniaeth Chwaraeon a Meddygaeth Chwaraeon eraill, ar gyfer trefn ymarfer gyflawn.
Maeth:
Mae cefnogaeth maeth yn cynnwys cyngor ynghylch beth sydd orau i’w yfed a’i fwyta i wella eich perfformiad. Gellir cael cyngor cyffredinol am faeth wrth hyfforddi a chystadlu yn ychwanegol at gyngor penodol am ofynion maeth dyddiol ar gyfer eich anghenion hyfforddi a chystadlu unigol. Gellir cael cyngor hefyd ynghylch ennill neu golli pwysau a sicrhau pwysau priodol mewn chwaraeon ag iddynt gategorïau pwysau.
Dadansoddi Perfformiad:
Mae dadansoddi perfformiad yn defnyddio amrywiaeth o feddalwedd cyfrifiadurol a thechnoleg fideo i asesu perfformiad. Mae ffactorau fel tactegau, techneg, symudiad a chyfradd gweithio wrth hyfforddi neu gystadlu’n gallu cael ei asesu. Mae hyn yn darparu gwybodaeth werthfawr i hyfforddwyr, i’w galluogi i ddefnyddio hyfforddiant a thactegau i sicrhau cymaint o lwyddiant ag y bo modd.
I weld y 'Cwestiynau a Holir yn Aml' ynghylch Cefnogaeth Gwyddoniaeth Chwaraeon, cliciwch yma.
