Cynhaliaeth Ffordd o Fyw’n Perfformio
Mae Ffordd o Fyw’n Perfformio yn wasanaeth cefnogi arbenigol sydd wedi’i greu’n benodol i helpu pob athletwr i greu’r amgylchedd unigryw sydd ei angen i lwyddo.
Mae cynghorwyr athletwyr cymwys yn deall mai’r rhaglen chwaraeon yw’r prif ffocws ar gyfer athletwyr yn cystadlu ac maent yn darparu cyngor ynghylch sut i wneud y gorau o’r ffocws hwnnw tra’n parhau i gadw at ymrwymiadau eraill pwysig, fel gyrfa, teulu ac ymrwymiadau cymdeithasol neu ariannol. Gweithir yn agos gyda hyfforddwyr ac arbenigwyr cefnogi fel rhan o dîm integredig i sicrhau cyn lleied ag y bo modd o bryderon posibl, gwrthdaro ac aflonyddwch, sy’n gallu bod yn niweidiol i berfformiad ac, ar ei waethaf, yn gallu rhoi terfyn ar yrfa.
Cyflwynir y rhaglen Ffordd o Fyw’n Perfformio i aelodau Élite Cymru drwy gyfrwng ymgynghorydd yn Uned Élite Cymru yn bennaf. Mae’n ofynnol i aelodau Élite Cymru gwrdd â’r ymgynghorydd unwaith o leiaf er mwyn sefydlu pa gefnogaeth ffordd o fyw sydd ei hangen, os o gwbl. Ymhlith yr enghreifftiau o’r gefnogaeth a gynigir gan y rhaglen Ffordd o Fyw’n Perfformio mae:
- Cynllunio Integredig – mae hyn o gymorth i athletwyr gyfuno gofynion eu camp â dyheadau personol eraill;
- Cyfarwyddyd Addysgol – yn darparu cyngor ar gyfer yr athletwyr hynny sy’n dymuno dal ati gyda’u hastudiaethau neu gefnogaeth i’r rhai sy’n astudio ar hyn o bryd;
- Cynllunio Gyrfa – yn helpu athletwr i ddarganfod ei gryfderau a’i ddiddordebau ei hun a chyfateb y rhain gyda dyheadau gyrfaol posibl;
- Cefnogaeth mewn cyfnod o newid – ar gyfer yr athletwyr hynny sydd wedi cael anaf, sy’n adleoli neu’n tynnu at ddiwedd eu gyrfa. Mae’r rhaglen yn darparu cyfarwyddyd ynghylch opsiynau yn y dyfodol;
- Rhaglenni Hyfforddi a Datblygu ar gyfer grwpiau o athletwyr neu athletwyr unigol mewn amrywiaeth eang o bynciau, ee rheoli amser, cyllidebu a chyllid, delio â’r cyfryngau, nawdd;
- Cefnogaeth barhaus – gall cyn-aelodau Élite Cymru ddefnyddio’r rhaglen Ffordd o Fyw’n Perfformio am gyfnod o hyd at 12 mis wedi gorffen gyda chynllun Élite Cymru.
