Cyrff Rheoli

Cynhaliaeth Feddygol

Mae Élite Cymru’n darparu ar gyfer ei aelodau gefnogaeth feddygol gynhwysfawr. Gall aelodau Élite Cymru fynychu sesiynau ffisiotherapi gyda’r prif ffisiotherapydd yn Athrofa Chwaraeon Cymru, neu gyda ffisiotherapydd siartredig cymeradwy.

Hefyd, mae Élite Cymru’n talu costau meddygol eraill fel ymgynghoriadau, sganiau a llawdriniaethau, hyd at uchafswm o £4,000 y flwyddyn. Mae rhwydwaith o ffisiotherapyddion ac arbenigwyr wedi’i ddatblygu er mwyn sicrhau proses gyfeirio gyflymach i aelodau Élite Cymru. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cyflogi Meddyg Meddygaeth Chwaraeon a Therapydd Tylino Chwaraeon ar gytundeb, i helpu gyda chyflwyno’r gwasanaeth meddygol.