Élite Cymru

Cysylltwch a Ni

Pwy all wneud cais?

Cyfyngir y ceisiadau i ddynion a merched y byd chwaraeon sy’n fodlon ac yn gallu cynrychioli Cymru mewn chwaraeon nad ydynt yn rhan o’r Gemau Olympaidd. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cytuno ar safonau perfformio lleiafswm gyda mwyafrif y cyrff rheoli ar gyfer chwaraeon nad ydynt yn rhan o’r Gemau Olympaidd yng Nghymru ac mae’n rhaid i’r ymgeiswyr gyrraedd y safonau hyn yn glir cyn y gellir eu hystyried ar gyfer dyfarniad Élite Cymru. Dylid sicrhau cyswllt drwy gyfrwng y corff rheoli, neu Uned Perfformiad Uchel, er mwyn canfod beth yw’r safonau perfformio lleiafswm ar gyfer camp arbennig.

Golff - ar ran golffwyr mae'r canllawiau diweddaraf ar gael yma ar gefnogaeth Élite Cymru i olffwyr proffesiynol.

Dim ond ceisiadau am gefnogaeth ar gyfer y chwaraeon a’r gweithgareddau hynny nad ydynt yn rhan o’r Gemau Olympaidd a gydnabyddir gan Gyngor Chwaraeon Cymru a ystyrir ar gyfer dyfarniadau Élite Cymru. Os ydych yn ansicr ynghylch pa un ai yw eich camp neu eich disgyblaeth wedi’i chydnabod, cysylltwch ag Uned Perfformiad Uchel.

Sut i wneud cais?

Os ydych yn bodloni’r meini prawf perfformio lleiafswm ar gyfer eich camp ac eisiau gwneud cais am ffurflen gais, cysylltwch â:

Uned Perfformiad Uchel
Cyngor Chwaraeon Cymru
Gerddi Sophia
Caerdydd
CF11 9SW

Ffôn: 029 2033 8237

www.elite-cymru.co.uk