Élite Cymru

Élite Cymru

Athletau

Rhaglen a gyllidir gan y loteri yw Élite Cymru a’i nod yw darparu i athletwyr elitaidd, a’r rhai gyda photensial i fod yn athletwyr elitaidd, mewn chwaraeon nad ydynt yn rhan o’r Gemau Olympaidd, amrywiaeth eang o gefnogaeth er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu eu potensial yn llawn.

Darperir i aelodau Élite Cymru:

  • Cefnogaeth ariannol;
  • Cefnogaeth feddygol;
  • Cefnogaeth wyddoniaeth chwaraeon;
  • Cefnogaeth cryfder a siapio;
  • Ffordd o fyw yn perfformio;
  • Hyfforddiant.

Mae cael eich cynnwys yn aelod o gynllun Élite Cymru Cyngor Chwaraeon Cymru’n gyflawniad ynddo’i hun. Mae’r safonau perfformio’n eithriadol uchel er mwyn bodloni’r meini prawf i dderbyn cefnogaeth. I dderbyn cefnogaeth barhaus fel rhan o gynllun Élite Cymru, mae’n rhaid i’r aelodau allu profi i Gyngor Chwaraeon Cymru a’u corff rheoli eu bod yn dal ati i wneud cynnydd. Barn Cyngor Chwaraeon Cymru yw bod manteisio ar y gwasanaethau cefnogi a gynigir yn rhoi’r cyfle gorau posibl i aelodau Élite Cymru gyrraedd eu nodau a helpu i wneud yr 1% hwnnw o wahaniaeth sy’n gallu arwain at lwyddiant.

Adolygir aelodaeth Élite Cymru bob blwyddyn fel rheol, yn erbyn cynlluniau perfformio pendant ac ar y cyd â chyrff rheoli cenedlaethol. Rhoddir ystyriaeth i berfformiadau’n erbyn targedau cytunedig.

Mae’r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth am sut all dyfarniadau Élite Cymru gefnogi dynion a merched talentog y byd chwaraeon, a’r dull o ymgeisio.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynnig yr ymrwymiad teiran hwn i ymgeiswyr:

  • bydd eich cais yn cael ei farnu ar sail ei rinweddau unigol ac yn unol â’r meini prawf a nodwyd gan Gyngor Chwaraeon Cymru;
  • byddwch yn cael sylw proffesiynol a chwrtais;
  • anfonir y penderfyniad ynghylch eich cais yn uniongyrchol atoch chi cyn gynted ag y bo modd. Os bydd oedi gyda’r penderfyniad, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn ceisio rhoi syniad i chi pryd mae penderfyniad yn debygol o gael ei wneud.

Y Loteri Genedlaethol

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi creu cyllid newydd ac arwyddocaol ar gyfer achosion da yn y DG, yn cynnwys chwaraeon. Dosberthir y cyllid ar gyfer chwaraeon nad ydynt yn rhan o’r Gemau Olympaidd gan Gyngor Chwaraeon Cymru.

Dull Cystadleuydd-Ganolog o Weithredu

Mae cynllun Élite Cymru’n mabwysiadu dull cystadleuydd-ganolog o weithredu er mwyn ceisio rhagoriaeth. Seilir y gwaith o gyflwyno gwasanaethau ar y cynsail bod raid i’r cystadleuydd weithredu mewn amgylchedd lle cydlynir cefnogaeth, ac ni ddylid ei chyflwyno mewn ffordd ad hoc, ddarniog. Mae’r cystadleuydd yn ganolog i’r broses, tra bo raid i systemau a gwasanaethau cefnogi fod yn hyblyg a chyfleus, er mwyn helpu i’r cystadleuydd gyflawni ei botensial ef / hi.

Am ragor o wybodaeth am restr cyfredol athletwyr Élite Cymru, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth am ein partneriaid swyddogol cliciwch yma

Am ragor o wybodaeth ar ‘Pwy all wneud cais’ a Sut i wneud cais’ cliciwch yma