100% ME Gwrth-Gyffuriau
Gwrth-Gyffuriau
Rhaglen ar gyfer athletwyr gan UK Sport yw 100%ME, yn ceisio cynyddu’r ddealltwriaeth o chwaraeon heb gyffuriau ymhlith y gymuned chwaraeon yn gyffredinol drwy ddarparu gwybodaeth safonol, berthnasol am ymatal rhag cymryd cyffuriau a hybu agweddau a gwerthoedd positif ymhlith dynion a merched y DG sydd wedi cystadlu’n llwyddiannus mewn chwaraeon heb gyffuriau.
‘Mae bywyd yn rhy fyr. Byddwch yn chi eich hun 100%. Byddwch yn naturiol 100%. Byddwch yn rhydd o gyffuriau 100%.'
- Sarah Bailey, Nofwraig Baralympaidd ac Enillydd Medal Aur Paralympaidd
Cystadlu a pherfformio hyd eithaf eich gallu – dyna beth mae chwaraeon yn ei olygu. Os oes raid i athletwyr ddefnyddio sylweddau sydd wedi’u gwahardd neu ddulliau o wella eu perfformiad yna maent yn eu twyllo eu hunain a’u cydathletwyr.
- 100% Cred;
- 100% Penderfyniad;
- 100% Ymroddiad;
- 100% Parch;
- 100% Ymrwymiad;
- 100% Gwybodaeth;
Dyma’r nodweddion sy’n perthyn i ddynion a merched y byd chwaraeon sy’n ymroi i gymryd rhan mewn chwaraeon heb gymryd cyffuriau. Mae’r athletwyr hyn yn gwybod sut beth yw ennill heb gyffuriau oherwydd mae ganddynt hyder ynddynt eu hunain ac yn eu paratoadau ar gyfer cystadlaethau.
Cyflwynir y neges 100%ME drwy gyfrwng rhwydwaith o diwtoriaid sydd wedi’u hachredu ac sydd wedi derbyn hyfforddiant drwy gyfrwng UK Sport ac, yng Nghymru, mae gennym rwydwaith o 33 o diwtoriaid i ledaenu’r neges ar hyn o bryd. Yr amcan yw cyflwyno’r neges 100%ME i athletwyr, athrawon, rhieni a hyfforddwyr fel eu bod:
- yn ymwybodol o bwysigrwydd peidio â chymryd cyffuriau;
- yn cael gwybod ble i gael hyd i wybodaeth am gyffuriau mewn chwaraeon;
- yn gallu adnabod sylweddau a dulliau gwahareddedig.
Os hoffech wybodaeth bellach neu os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu sesiynau diweddaru 100%ME yn y dyfodol, neu hyfforddi i fod yn diwtor eich hun, cysylltwch â Sue Maughan yng Nghyngor Chwaraeon Cymru ar 02920 338278 neu drwy e-bost, sue.maughan@scw.org.uk
I fynd i wefan 100%ME, cliciwch yma
I weld y Bas Data Rhyngwladol o Wybodaeth am Gyffuriau, cliciwch yma.
