Chwaraeon Perfformiad Uchel
[Mae'r adran yma o'r wefan yn cael ei ail-lunio ar hyn o bryd.]
Mae llwyddiant mewn chwaraeon elitaidd yn dibynnu ar gasglu nifer o ffactorau ynghyd (gweler y diagram isod). Er bod hyn yn ymddangos yn syml, mae’r dull o weithredu’n gymhleth ac yn heriol bob amser. Mae adnabod talent, sicrhau ei bod yn cael ei datblygu gan hyfforddwr medrus a chan dderbyn cyfleoedd cystadlu a chefnogaeth ragorol yn dasg anodd iawn dan yr amgylchiadau gorau. Mae rheoli’r broses dan amgylchiadau lle ceir prinder adnoddau’n her aruthrol.
Gorwedd y cyfrifoldeb am y gwaith rheoli hwn gydag uwch-hyfforddwr yn aml, ac efallai fod ganddo’r sgiliau priodol, neu ddim. Yn ddelfrydol, dylai CRhC benodi rheolwyr ‘perfformiad’ chwaraeon-benodol a’u prif ddiben fyddai sicrhau bod elfennau’r fformiwla llwyddiant yn eu lle. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid cyflogi cyfarwyddwyr perfformiad generig i gefnogi, herio a chynorthwyo i reoli rhaglenni datblygu elitaidd. Hefyd, dylai’r cyfarwyddwyr perfformio generig gyflawni’r un swyddogaeth ar gyfer unigolion eithriadol mewn chwaraeon gyda phrinder dybryd o staff. Sicrhawyd llwyddiant yng Nghymru yn ddiweddar drwy osod y cystadleuydd yn ffocws y sylw a chreu strwythurau cefnogi y mae ef / hi eu hangen. Gwelir y dull hwn o weithredu sy’n troi o amgylch y cystadleuydd isod.
Nodir y dylanwadau positif a negatif posibl ac fe’u rheolir er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau a wneir a’r systemau a weithredir o fudd i’r unigolyn. Does dim amheuaeth bod unigolion ieuainc a thalentog dan anfantais ar adegau oherwydd ble maent yn byw. Efallai eu bod yn ei chael yn anodd i gael hyd i hyfforddiant da neu gystadlaethau priodol mor aml ag y bo angen. Y farn gyffredinol ymhlith gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol yng Ngogledd Cymru yw bod angen sefydlu Athrofa Chwaraeon yng Ngogledd Cymru. Nid yw hyn yn golygu bod raid wrth adeilad penodol, dim ond system ar gyfer adnabod a datblygu talent a sicrhau cyn lleied ag y bo modd o anfantais a rheolaeth briodol ar y broses. Gydag adnoddau priodol, bydd CChC yn sefydlu Athrofa Chwaraeon Gogledd Cymru.
Mae’r adran hon yn cynnwys is-adrannau pellach yn rhoi sylw i’r materion a ganlyn:
