Cyrff Rheoli

Chwaraeon Modern

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (CChC) drwy gyfrwng y "Fframwaith ar gyfer Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol" yn cydnabod bod Cryff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) hynny sy'n cyflwyno cyfleoedd yn gyson ac yn llwyddo yn meddu ar reolaeth dda. Felly, bydd CChC yn canolbwyntio ar raglen Chwaraeon Modern yn arwain at CRhC cadarn, cynrychioliadol, atebol a chynhwysol, yn gallu dangos arweinyddiaeth a rheolaeth dda.

Mae’r rhaglen Chwaraeon Modern yn disgrifio dull cynhwysfawr er mwyn i CRhC allu gwirio eu heffeithiolrwydd presennol yn ei erbyn a chymryd camau ymarferol i sicrhau eu bod yn cynnig Camp Fodern.

Ystyr Camp Fodern yw bod CRhC yn dangos y nodweddion a ganlyn:

  • atebolrwydd llawn i aelodau, cyllidwyr a chyfranddeiliaid yn y gamp;
  • trefniadau modern ac effeithlon ar gyfer rheoli’r gamp yn yr hirdymor;
  • strwythurau cyfreithiol priodol ar gyfer y sefydliad;
  • cynllun strategol ysbrydoledig ond realistig gyda chynlluniau busnes blynyddol priodol;
  • arweinyddiaeth glir yn y gamp, gan fynnu parch mwyafrif y chwaraewyr;
  • swyddogaethau a disgwyliadau clir er mwyn sicrhau cyfraniad optimwm gan aelodau’r bwrdd, y staff cyflogedig, gwirfoddolwyr a chwaraewyr;
  • systemau eglur a chydymffurfiol ar gyfer rheoli a gweinyddu chwaraeon;
  • ymrwymiad i safonau moesegol a chwarae teg drwy gyfrwng pob agwedd ar y gamp;
  • ffynonellau cyllid amrywiol heb ddibynnu gormod ar un cyllidwr yn unig;
  • gwaith partneriaeth gyda sefydliadau cysylltiedig er mwyn cyflwyno blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer chwaraeon.
  • Mae Camp Fodern yn dibynnu ar bedair elfen allweddol – y bwrdd, y cadeirydd, y PSG neu cywerth a’r staff / gwirfoddolwyr – ac mae bob un o’r rhain angen swyddogaethau rheoli ac arwain da er mwyn cyflawni nodau chwaraeon y CRhC.