Merched a Genethod
Sefydlwyd fforwm chwaraeon Merched a Genethod ers 2001. Mae’r fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd ledled y wlad, gan alluogi i Gyngor Chwaraeon Cymru adrodd yn ôl am y cynnydd a wneir yn y maes hwn. Mae’r fforwm hefyd yn darparu cyngor i Gyngor Chwaraeon Cymru ynghylch sut gall wella ei raglenni a dylanwadu ar ei bartneriaid a’r is-strwythur presennol o chwaraeon i ymateb i anghenion merched a genethod.
