Cyrff Rheoli

Grwpiau Lleiafrifiedd Ethnig

Mae holl raglenni Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynnig cyfle i bob cymuned oresgyn y rhwystrau sy’n effeithio ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae’r rhain ar eu gwaethaf mewn ardaloedd lle ceir cymunedau mawr o leiafrifoedd ethnig, yn arbennig Casnewydd, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam.

Ar y tir, mae swyddogion yn ceisio meithrin cysylltiadau cryfach gyda chymunedau o leiafrifoedd ethnig, drwy gysylltu, cynrychioli a chyfathrebu. Gweithredwyd mewn sawl ffordd: neilltuo cyllid fel bod modd targedu gwaith mewn ardaloedd blaenoriaeth; sefydlu Fforymau Chwaraeon ar gyfer Grwpiau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig (DLlE) yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, er mwyn arwain y gwaith o ddatblygu prosiectau newydd; a datblygu cynllun gweithredu pêl droed ar gyfer chwaraeon DLlE. Bydd Cyngor Chwaraeon Cymru’n dal ati gyda’r gwaith proactif hwn ac, yn arbennig, yn codi proffil mentrau DLlE drwy eu hybu mewn cyhoeddiadau lleol ar gyfer lleiafrifoedd ethnig a thrwy edrych ar ffyrdd creadigol o weithio.