Cyrff Rheoli

Tegwch

Mae tegwch yn ymwneud ag adnabod a dileu’r rhwystrau a wynebir gan bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, neu sydd eisiau cymryd rhan. Mae’n golygu newid diwylliant y byd chwaraeon i ddiwylliant sy’n gweld gwerth mewn amrywiaeth ac sy’n annog cyfranogiad llawn gan grwpiau dan anfantais ym mhob agwedd ar chwaraeon.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n ymroddedig i’r egwyddor o ddiogelwch a chydraddoldeb mewn chwaraeon ac mae’n gweithio i sicrhau bod pob person a phob cymuned yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon mewn amgylchedd diogel.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n croesawu amrywiaeth ac adlewyrchir hyn wrth i’r Cyngor weithredu fel:

  • Sefydliad cyllido;
  • Darparwr gwasanaethau;
  • Cyflogwr.

Equality Standard - A Framework for SportMae Cyngor Chwaraeon Cymru’n ymroddedig i Gydraddoldeb mewn chwaraeon ac mae wedi ymwneud â chreu "Y Safon Gydraddoldeb : Fframwaith ar gyfer Chwaraeon". Mae’r safon yn cynnwys 4 lefel ac mae’n fframwaith y dylai Cyrff Rheoli Chwaraeon bach a mawr ei ddefnyddio i arwain eu sefydliad. Mae sawl camp yng Nghymru eisoes wedi llwyddo i gyrraedd y safon.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi datblygu a chefnogi nifer o brosiectau a mentrau penodol i dargedu grwpiau a dangynrychiolir mewn chwaraeon.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â emma.newton@scw.org.uk.

Am gopi o’r datganiad diweddaraf o’r PORh ar Aflonyddwch a Chamdriniaeth Rhywiol mewn Chwaraeon, cliciwch yma.

Cyfarfodydd Swyddogion Arweiniol

24ain Mehefin 2008

Diweddariad tegwch CChC Mehefin 2008

Deddfwriaeth ar gyfer Cyrff Rheoli

Y Safon Gydraddoldeb

Y Safon Gydraddoldeb