Cyrff Rheoli

Amddiffyn Plant

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n gweithio’n agos gyda’r Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol a chyda’r Uned Amddiffyn Plant Mewn Chwaraeon (CPSU). Mae’r gwaith hwn yn sicrhau bod pob camp yng Nghymru’n derbyn cefnogaeth i fabwysiadu polisïau a gweithdrefnau Amddiffyn Plant priodol a bod y rhain yn cael eu gweithredu mewn chwaraeon ar lefel clwb.

Drwy gyfrwng ei rwydwaith o diwtoriaid, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cydlynu, yn cynllunio ac yn cyflwyno hyfforddiant Sportscoach UK allweddol yn rhoi sylw i amddiffyn plant i Gyrff Rheoli Cenedlaethol, gwirfoddolwyr clwb a hyfforddwyr. Am wybodaeth bellach, clicwch yma am restr gyfredol o’r holl gyrsiau sydd ar gael ar gyfer amddiffyn plant.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â emma.newton@scw.org.uk.

Diogelu a Gwarchod Plant mewn Chwaraeon yng Nghymru

Yng Nghymru, rydym yn credu ei bod yn ddymunol meddu ar ddisgwyliadau diogelu wedi’u diffinio’n bendant ar gyfer sefydliadau chwaraeon ac, mewn partneriaeth â CPSU, rydym wedi datblygu ‘Fframwaith ar gyfer Diogelu a Gwarchod Plant mewn Chwaraeon yng Nghymru’.

Mae’r fframwaith diogelu’n ddull cyffredinol o warchod plant mewn a thrwy gyfrwng chwaraeon, ac mae’n cynnwys:

• safonau

• cefnogaeth

• cynnydd a gwerthuso.

Mae’r fframwaith yn cynnwys pump safon y dylai sefydliad chwaraeon ddangos ei fod yn eu cynnal ar bob lefel yn ei gamp. Er mwyn bodloni’r fframwaith, bydd y sefydliadau’n datgan dulliau ar gyfer gweithredu. Hybir a chefnogir pob dull gan gyfathrebu effeithiol a diogelu cyfleoedd hyfforddi a fydd o fudd i’r sefydliad.

Diben y safonau

• Helpu i greu amgylchedd chwaraeon diogel ar gyfer plant a phobl ieuainc a’u gwarchod rhag niwed.

• Darparu maincnod i gynorthwyo’r rhai sy’n ymwneud â chwaraeon i wneud penderfyniadau doeth.

• Hybu arfer dda a herio arferion sy’n niweidiol i blant.

• Dangos yn glir i’r rhai sy’n ymwneud â chwaraeon sut i adnabod ac ymateb i bryderon.

Defnyddio a gweithredu’r safonau

Mae’r fframwaith wedi’i fwriadu i fod yn berthnasol i bob camp ar bob lefel. Mae’n ymwneud â gweithgarwch chwaraeon a gynhelir mewn lleoliad trefnus.

Gall sefydliadau fel cyrff cyllido, rheoli ac ymbarél eu defnyddio at ddibenion amrywiol, er enghraifft, i godi safonau, i’w cynorthwyo i wneud penderfyniadau neu at ddibenion gorfodaeth.

Am wybodaeth am y fframwaith a’r CRhC sy’n gysylltiedig ar hyn o bryd, ewch i:

Cymdeithas Chwaraeon Cymru

Cyfarfodydd a Hyfforddiant i Brif Swyddogion CRhC.

Am y calendr llawn o gyfarfodydd a DPP, ewch i: www.welshsports.org.uk