Hunan-Sicrwydd
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (CChC) drwy gyfrwng y "Fframwaith ar gyfer Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol" yn cydnabod bod y Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) hynny sy'n cyflwyno cyfleoedd yn gyson ac yn llwyddo yn meddu ar reolaeth dda. Felly, bydd CChC yn canolbwyntio ar raglen Chwaraeon Modern yn arwain at CRhC cadarn, cynrychioliadol, atebol a chynhwysol, yn gallu dangos arweinyddiaeth a rheolaeth dda.
Fel rhan o’r agenda foderneiddio, mae Gwasanaethau’r Cyrff Rheoli Cenedlaethol wedi cyflwyno proses Hunan-Sicrwydd y CRhC. Mae’r broses sicrwydd yn arf hunanasesu sy’n adrodd yn ôl am statws rheoli CRhC. Gwneir hyn ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y CRhC mewn cais ar y we yn unig.
Mae’r broses yn cynnwys y meysydd gweithredol a ganlyn:
- Rheolaeth Gorfforedig a Rheoli Risg
- Cynllunio Strategol
- Rheolaeth Ariannol
- Adnoddau Dynol
- Polisi Trefniannol.
Amcan y broses Hunan-Sicrwydd yw helpu CRhC i symud tuag at reolaeth gredadwy a chadarn.
Bydd pob CRhC yn cael ei adran ei hun yn y cais a gall asesu ei hun yn erbyn nifer o ganlyniadau amrywiol sy’n arwain at CChC yn diweddu gyda datganiad sicrwydd cynhwysfawr wedi'i gytuno ac arwyddo.
Bydd cynnwys y datganiad yn briodol i faint, statws ac adnoddau bob CRhC.
