Cyrff Rheoli

Cydnabyddiaeth

Mae cydnabyddiaeth yn broses sydd wedi ei gytuno ar y cyd gan wledydd cartref ac UK Sport. Pwrpas y broses yw i benderfynnu beth yw gweithgaredd chwaraeon ar ran y cynghorau chwaraeon ac i sefydlu pa gorff fydd yn rheoli gweithgareddau chwaraeon ar sail y Gwledydd Cartref yn unigol â’r DG.

Tydi cydnabyddiaeth o weithgaredd chwaraeon neu gorff llywodraethol chwaraeon ddim yn golygu cymhwyster neu hawl i fuddsoddiad na wasanaeth y cyngor chwaraeon.

Egwyddorion Cydnabod:

Seilir yr egwyddor o gydnabod ar broses ddeugam:

  • cydnabod gweithgaredd chwaraeon yn erbyn meini prawf;
  • cydnabod corff rheoli chwaraeon sy’n datgan ei fod yn rheoli ac yn datblygu gweithgaredd chwaraeon cydnabyddedig oddi mewn i ardal bendant yn y DG.

Diben cydnabod cyrff rheoli yw galluogi i’r Cynghorau Chwaraeon benderfynu ar un sefydliad arweiniol ar gyfer rheoli a datblygu’r gweithgaredd chwaraeon. Nid yw’n golygu bod y Cynghorau Chwaraeon wedi cymeradwyo nac achredu safon rheolaeth neu raglenni datblygu’r corff rheoli. Bydd y Cynghorau Chwaraeon yn ystyried materion o’r fath yn fanylach fel rhan o unrhyw broses fuddsoddi.

Mae’r adnoddau a ganlyn ar gael i’w llwytho o’r wefan:

Am wybodaeth bellach ar y broses cydnabyddiaeth gan gynnwys meini prawf cydnabyddiaeth, cysylltwch a Cyngor Chwaraeon Cymru ar 02920 338276.